91热爆

Gohirio ymchwiliad diswyddiad Carl Sargeant dros dro

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Carl Sargeant yn ysgrifennydd cymunedau cyn iddo golli ei swydd

Mae'r ymchwiliad swyddogol i'r modd cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru wedi ei ohirio oherwydd her gyfreithiol.

Dywedodd Paul Bowen QC, sy'n arwain yr ymchwiliad annibynnol, iddo wneud y penderfyniad ar 么l i deulu Mr Sargeant wneud cais am adolygiad barnwrol.

Mae'r teulu yn herio'r broses sy'n cael ei ddilyn gan Mr Bowen wrth iddo gasglu tystiolaeth i'r modd gafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo, wrth i Carwyn Jones ad-drefnu ei gabinet fis Tachwedd diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod yr oedi pellach yn "hynod rwystredig".

Diswyddo

Dywedodd datganiad ar ran yr ymchwiliad: "Mae Mr Bowen wedi ysgrifennu at y Cyfranogwyr Craidd i'w hysbysu na fyddai'n briodol cymryd unrhyw gamau pellach yn yr ymchwiliad, gan gynnwys cael tystiolaeth, mewn amgylchiadau lle, os bydd yr Adolygiad Barnwrol yn llwyddiannus, y gallai gweithdrefn yr ymchwiliad a phwerau'r ymchwilydd newid."

Mae'r llythyr hefyd yn datgelu na fydd gwrandawiadau tystiolaeth yn cael eu clywed cyn mis Mawrth neu Ebrill y flwyddyn nesaf, ar 么l i Carwyn Jones gamu o'r neilltu fel prif weinidog.

Cafodd corff cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy ei ddarganfod yn ei gartref yng Nghei Connah, Sir y Fflint yn Nhachwedd 2017. Y gred yw iddo ladd ei hun.

Bedwar diwrnod cyn hynny fe gafodd ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru wrth i honiadau o "gyffwrdd anaddas ac ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched" ddod i'r amlwg.

Roedd Mr Sargeant wedi gwadu'r honiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi cytuno i gais gan yr IQCI am newid i'r amserlen ar gyfer cwblhau ei adroddiad.

"Er ein bod ni'n deall y rhesymau am y cyhoeddiad, mae'r oedi yn hynod rwystredig."