Gwahardd aelod cabinet Llywodraeth Cymru wedi honiadau
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r "peth iawn" yw camu o'r neilltu am y tro yn dilyn "honiadau" yn ei erbyn.
Dywedodd y blaid Lafur yng Nghymru eu bod hefyd wedi gwahardd Carl Sargeant, a bod y chwip wedi'i dynnu oddi wrtho yn y Cynulliad.
Yn 么l yr AC fe ddaeth yr honiadau yn "sioc", a dydy o ddim yn gwybod ar hyn o bryd beth yw natur yr honiadau.
Mae bellach wedi gadael ei r么l weinidogol, a hynny wrth i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ad-drefnu ei gabinet.
'Clirio fy enw'
Mewn datganiad brynhawn ddydd Gwener, dywedodd Mr Sargeant: "Fe wnes i gwrdd 芒'r prif weinidog heddiw a dywedodd wrtha' i fod honiadau am fy ymddygiad personol, a achosodd sioc a loes i fi.
"Dydw i ar hyn o bryd ddim yn gwybod manylion yr honiadau.
"Dwi wedi ysgrifennu at ysgrifennydd cyffredinol Llafur Cymru gyda chais am ymchwiliad annibynnol brys i'r honiadau hyn er mwyn i mi allu clirio fy enw.
"Oherwydd natur yr honiadau, cytunais gyda'r prif weinidog ei bod hi'n iawn fy mod i'n gadael y cabinet heddiw. Dwi'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r llywodraeth unwaith dwi wedi clirio fy enw."
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Yn dilyn honiadau sydd wedi dod yn y dyddiau diwethaf am ymddygiad Carl Sargeant, mae'r Prif Weinidog wedi ei dynnu o'r cabinet ac wedi gofyn i Lafur Cymru gynnal ymchwiliad llawn."
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur yng Nghymru: "Mae Carl Sargeant wedi'i wahardd fel aelod o'r blaid, a hefyd o'r chwip Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol, tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau sydd wedi'u gwneud."
Cafodd Mr Sargeant ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003, ac mae wedi bod yn weinidog llywodraeth ers 2007.