'Angen rhoi barn ar gynlluniau Brexit Llywodraeth Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog ffermwyr i fynychu cyfarfodydd, a drefnir ganddynt ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf, er mwyn trafod dyfodol economi Cymru wledig.
Yn ystod yr haf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion dau gynllun newydd i ariannu'r sector amaethyddol ar 么l Brexit.
Bydd y cymorthdaliadau presennol, sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i ffermydd a sy'n seiliedig ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben.
O dan y drefn newydd bydd arian yn cael ei roi i hyrwyddo "gwydnwch economaidd" a chynorthwyo ffermwyr i ddarparu "nwyddau cyhoeddus".
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar Hydref 30 2018.
Ofni'r dyfodol
Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, "Tra bod ffermwyr ar draws Cymru yn brysur yn cynllunio sut i ddelio 芒 canlyniadau'r tywydd diweddar, mae'n bwysig eu bod yn edrych ymhellach ar ddyfodol eu busnesau yn wyneb cynlluniau'r Llywodraeth.
"I fod yn blaen y bwriad yw cael gwared 芒'r taliadau sylfaenol sy'n cyfrannu oddeutu 80 y cant i incwm y fferm a chyflwyno cynllun amaeth-amgylcheddol.
"O ystyried bod ffermwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwriadu cadw eu taliadau uniongyrchol, yn yr un modd 芒 phob gwlad arall yn yr UE, mae angen i ffermwyr Cymru drafod sut y maent yn mynd i fyw heb gefnogaeth ariannol uniongyrchol."
Ychwanegodd Mr Roberts ei fod yn "ofni y bydd cynllun newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn gymwys i unrhyw un sydd 芒 thir, yn tynnu cyllid oddi ar economi wledig Cymru ac yn ei roi i elusennau a busnesau mawr.
"Rhaid i unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn economio wledig Cymru ddatgan eu barn a chyflwyno eu sylwadau i'r ymgynghoriad ac felly rwy'n gobeithio'n fawr y bydd modd i gynifer o bobl 芒 phosib fynychu ein cyfarfodydd."
Bydd y cyntaf o'r cyfarfodydd yn cael ei gynnal yn Nolgellau nos Lun.
Mae manylion y cyfarfodydd eraill i'w gweld ar wefan .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018