91热爆

Cyfle 'unigryw' i newid amaeth a'r amgylchedd wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Chwistrellu

Mae Brexit yn cynnig cyfle unigryw i achub bywyd gwyllt, yn 么l cyn-ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Dr Malcolm Smith, cyn-brif wyddonydd i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ei fod yn gyfle "unwaith mewn oes" i greu polisi ffermio sy'n "dechrau adfer y niwed enfawr" sydd wedi dod yn sgil ffermio dan system taliadau CAP.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru'n dweud y gallai cynlluniau o'r fath ddifetha nifer fawr o ffermydd teuluol a niweidio'r economi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gadael yr UE yn gyfle i greu polisi sy'n "gweithio i'r economi, i gymdeithas a byd natur".

Mae Dr Smith yn trafod ei syniadau am amaeth 么l-Brexit mewn llyfr newydd, lle mae'n dadlau bod "haelioni" taliadau CAP wedi talu ffermwyr i weithio mewn ffordd sy'n niweidiol i'r amgylchedd.

Ei ddadl yw bod cynlluniau amaeth ar hyn o bryd yn rhy anhyblyg ac ond yn hybu rhai elfennau sy'n dda i'r amgylchedd.

Mae'n dweud bod Brexit yn gyfle unigryw i wneud newidiadau a chreu cynllun cymorthdaliadau sy'n cefnogi bywyd gwyllt ac yn galluogi i ffermwyr gynhyrchu'r bwyd rydyn ni ei angen.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod syniadau Dr Smith yn creu pryder am ddyfodol "miloedd o fusnesau fferm teuluol a niwed aruthrol i'r economi, cymunedau a thirwedd Cymru".

Ychwanegodd yr undeb ei fod yn "werth nodi bod ein ffermwyr eisoes yn gwneud llawer i amddiffyn yr amgylchedd a'n bywyd gwyllt".

"Mae gan ffermwyr r么l bwysig i'w chwarae wrth gynnal a chadw cefn gwlad ac mae cynhyrchu bwyd a chadwraeth amgylcheddol yn gallu, ac yn gorfod, mynd law yn llaw."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod Brexit yn cynnig "heriau sylweddol" ond hefyd "cyfle unigryw" i greu polisi sy'n "gweithio i'r economi, i gymdeithas a byd natur".

Dywedodd llefarydd bod cynlluniau "uchelgeisiol" fyddai'n dod yn lle taliadau CAP yn gwneud "cyfraniad sylweddol i rai o'n heriau mwyaf fel newid hinsawdd, lleihad mewn bioamrywiaeth, ansawdd aer a chyflwr dwr".