Dynes achubodd hogyn eisiau gwella diogelwch G诺yr
- Cyhoeddwyd
Mae dynes yn galw am well arwyddion diogelwch ar 么l iddi achub bywyd hogyn ar arfordir G诺yr yn ddiweddar.
Roedd Ceri Saunders, mam 45 oed o Abertawe, yn mynd a'i chi am dro o Rosili i Broughton Bay pan welodd hi blentyn naw oed mewn perygl yn y d诺r.
Fe aeth ei mab 14 oed i geisio helpu'r bachgen, ond roedd hi'n rhy anodd i'w gyrraedd felly roedd rhaid i Ms Saunders fynd i mewn ei hun.
Credai Ms Saunders nad oes digon o arwyddion yn rhybuddio pobl o beryglon yr arfordir, ac o beth i'w wneud mewn achos o argyfwng.
Ychwanegodd nad oedd hi eisiau sylw wedi'r digwyddiad, ond yn hytrach am sicrhau fod gwell arwyddion diogelwch yn cael eu codi yn yr ardal.
Roedd Ms Saunders yn nofio'n gystadleuol fel plentyn, ac wedi gwneud rywfaint o hyfforddiant fel achubwr bywyd.
Pan gyrhaeddodd hi'r bachgen, sylweddolodd fod y cerrynt yn rhy gryf i nofio i'r lan, ac felly'r peth gorau i'w wneud oedd arnofio a pheidio cynhyrfu.
Er nad yw Ms Saunders yn si诺r am ba hyd yr oedd y ddau yn y d诺r, fe ddaeth criw Gwylwyr y Glannau i'w hachub yn y pendraw.
Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty, ac mae'r ddau bellach wedi ei rhyddhau
Roedd rhieni'r bechgyn ar y traeth yn ystod y digwyddiad ac yn "falch" iawn o weithredoedd Ms Saunders a chriw Gwylwyr y Glannau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018