Mab 13 oed yn achub ei dad oddi ar arfordir Ynys M么n
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn dweud bod ei fab 13 oed wedi achub ei fywyd wrth roi triniaeth CPR iddo wedi i'w caiac droi drosodd oddi ar arfordir Ynys M么n.
Aeth Paul Rowlands, 50, a'i fab, Joe, i drafferthion ger Ynys Dulas fis diwethaf a cheisio nofio i'r lan.
Ond fe wnaeth Mr Rowlands lewygu, a dywedodd bod ei fab wedi llwyddo i'w lusgo ar y creigiau a rhoi triniaeth CPR iddo er mwyn ei adfywio.
Cafodd y p芒r o Sir Caer eu hachub gan yr RNLI wedi i wraig Mr Rowlands, Julie, eu galw.
'Anhygoel o ddewr'
Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn gaiaciwr ac yn nofiwr profiadol, ond bod tymheredd y d诺r wedi achosi iddo fynd i sioc.
Dim ond ar 么l iddyn nhw gael eu hachub y sylweddolodd mai ei fab oedd wedi ei adfywio, meddai.
Ar 么l bron i ddwy awr ar y creigiau cafodd y ddau eu hedfan i fan diogel yn hofrennydd Gwylwyr y Glannau.
"Fe wnaeth Joe achub fy mywyd y diwrnod hwnnw, ac roedd yn anhygoel o ddewr mewn sefyllfa allai fod yn angheuol," meddai Mr Rowlands.
"Rwy'n gwybod na allai fyth ei dalu 'n么l am achub fy mywyd, ac rwy'n eithriadol o falch ohono."