Cynnydd yn nifer gwylwyr S4C, medd adroddiad blynyddol
- Cyhoeddwyd
Bu cynnydd yn nifer gwylwyr S4C yng Nghymru a'r DU yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, medd adroddiad blynyddol y darlledwr.
Yn 么l y ffigyrau, fe wyliodd 365,000 o bobl yng Nghymru S4C ar deledu dros gyfnod o 12 mis, gyda 690,000 yn ei wylio ledled y DU - cynnydd o 5% a 12%.
Llwyddodd y sianel hefyd i ddenu 8.2m o sesiynau gwylio ar y sianeli ar-lein Clic, a 91热爆 iPlayer.
Bu gostyngiad bychan yn nifer y Cymry Cymraeg sy'n gwylio, ond dywed S4C fod y ffigwr yn sefydlog dros yr hir dymor.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion colledion o dros 拢3m i S4C Digital Media Limited, wedi i Loteri Cymru ddod i ben.
Adroddiad cyntaf ers arolwg
Hwn yw'r adroddiad blynyddol cyntaf ers i arolwg annibynnol o'r sianel awgrymu newidiadau i'r modd mae'n cael ei hariannu a'i rheoli.
Fis Ebrill, fe gyhoeddodd llywodraeth Y DU gasgliadau Adolygiad Euryn Ogwen Williams o S4C, oedd yn awgrymu y dylai holl arian S4C ddod o ffi'r drwydded erbyn 2022.
O'r gyllideb bresennol o 拢84m, mae tua 8% yn dod o lywodraeth y DU a 90% o ffi'r drwydded. Mae'r 2% sy'n weddill yn dod o weithredoedd masnachol S4C.
Argymhelliad arall yr adolygiad oedd creu bwrdd unedig newydd o gyfarwyddwyr a rheolwyr.
G锚m b锚l-droed ar y brig
Y rhaglen unigol gafodd y nifer uchaf o wylwyr y llynedd oedd y g锚m b锚l-droed ryngwladol rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, a ddenodd 627,000 o wylwyr.
Dywedodd S4C mai dyna oedd eu ffigyrau gwylio uchaf ar gyfer unrhyw raglen ers Cyngerdd Cymorth Tsunami Caerdydd yn 2005, a'r ffigwr uchaf ar gyfer darllediad chwaraeon ers o leiaf 15 mlynedd.
Wrth ysgrifennu yn yr adroddiad blynyddol, dywedodd cadeirydd S4C, Huw Jones, bod yr adolygiad wedi galluogi'r sianel i esblygu.
"Gallwn bellach fwrw 'mlaen yn hyderus 芒'n strategaeth ddigidol gan wybod fod yna gytundeb eang y dylai S4C fod yn darparu gwasanaethau cyfryngau cyhoeddus Cymraeg ar ystod o lwyfannau, hen a newydd," meddai Mr Jones.
'Oes aur'
Mae dram芒u wedi bod ymysg rhaglenni mwyaf poblogaidd S4C yn ddiweddar.
Mae'r darlledwr wedi cynhyrchu cyfresi ar y cyd gyda'r 91热爆, gyda ffrwyth y bartneriaeth yn ymddangos ar S4C yn Gymraeg ac yna ar sianeli Saesneg y 91热爆 yng Nghymru a ledled y DU.
Gan edrych at y dyfodol, dywedodd Mr Jones bod llwyddiant dram芒u megis Un Bore Mercher a Craith yn dangos i'r diwydiant teledu gyrraedd "oes aur" i'w cynhyrchwyr.
Dywedodd Mr Jones: "Er y bydd arian yn dyn, mae yna ymrwymiad o sefydlogrwydd am beth amser i ddod, sydd ddim ar gael i bob corff cyhoeddus.
"Mae'n oes aur i gynhyrchwyr cynnwys.
"Mae'r byd yn fwy agored nag erioed i gynnyrch gwych ym mha iaith bynnag y'i gwneir. Mae rhai o'n cynyrchiadau diweddar yn rhoi sylfaen wych i adeiladu arno."
Roedd adroddiad Euryn Ogwen Williams hefyd wedi argymell newidiadau i fraich fasnachol S4C.
Colledion sylweddol
Ers hynny, mae wedi dod i'r amlwg bod y sianel wedi gwneud colledion sylweddol ar 么l "partneriaeth aflwyddiannus" gyda Loteri Cymru, ac mae adolygiad o weithrediadau masnachol S4C wedi dechrau.
Mae'r adroddiad yn nod: "Buddsoddodd S4C Digital Media Limited yn y Loteri, a hynny ar ffurf ff茂oedd hawliau teledu (拢660,505) a chyllid adenilladwy (拢2,609,410).
"Fodd bynnag, aeth Loteri Cymru i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill eleni ac ni ddisgwylir unrhyw ad-daliadau o bwys o broses gweinyddu'r cwmni."
Mae'r adroddiad blynyddol yn datgan i'r sianel ail-asesu gwerth rhai o'i buddsoddiadau, gan ddweud ei bod wedi cynnal "asesiad trylwyr o berfformiad a gwerth yr holl fuddsoddiadau ac o ganlyniad fe leihawyd gwerth nifer ohonynt ar y fantolen.
"Er hynny, mae'r gwerth a gr毛wyd gan y Gr诺p Masnachol yn ei gyfanrwydd dros gyfnod y strategaeth hon yn fwy nac unrhyw golledion ac mae'r Gr诺p wedi parhau i gyfrannu difidend sylweddol i gronfa gyhoeddus S4C."
Y prif weithredwr Owen Evans fydd yn cadeirio braich fasnachol S4C yn y dyfodol.
'Ail-ffocysu'
Wrth ysgrifennu yn yr adroddiad blynyddol, dwedodd Mr Evans ei fod yn "ail-ffocysu" gwaith y fraich fasnachol.
"Rwyf wedi gosod y nod o sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynnwys gwych, llwyfannau dosbarthu hyblyg a marchnata greddfol yn y dyfodol. Mae hyn wedi golygu adolygu llawer o'n gweithgareddau parhaus.
"Un o'r gweithgareddau pwysicaf fu ail-ffocysu ein his-gwmn茂au masnachol i gefnogi'r nodau hyn.
"Bydd y gronfa fasnachol yn parhau i weithredu dull portffolio cytbwys ac yn cymryd risgiau, ond bydd hynny yn fwyfwy o ran buddsoddiadau neu weithgareddau sy'n cefnogi ein nodau allweddol," meddai Mr Evans.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018