Colled posib o £3m i S4C wedi methiant cwmni loteri
- Cyhoeddwyd
Fe allai S4C golli £3m yn dilyn methiant y cwmni tu ôl i Loteri Cymru.
Fe aeth y gêm loteri Gymreig i ddwylo'r gweinyddwyr fis Mawrth, gan adael dros 10,000 o gwsmeriaid heb yr hawl i gyrraedd yr arian sydd ganddynt yn eu cyfrifon ar-lein.
Mae 91Èȱ¬ Cymru ar ddeall mai cangen fasnachol S4C, corff o'r enw SDML (S4C Digital Media Limited), oedd prif gefnogwr ariannol y fenter, yn ogystal â bod yn bartner darlledu ar gyfer canlyniadau Loteri Cymru.
Dywedodd S4C nad oeddynt yn disgwyl i fwyafrif y benthyciad gwerth £2.5m rhoddodd SDML i Loteri Cymru gael ei ad-dalu, na chwaith oddeutu £0.6m o'r ffi am hawliau darlledu sy'n ddyledus.
Bwriad S4C trwy gefnogi cynllun busnes Loteri Cymru oedd denu gwylwyr newydd a chefnogi achosion da, ond methodd y gêm â denu digon o chwaraewyr i'w gwneud yn gynaliadwy.
Gêm newydd?
Aeth Loteri Cymru i ddwylo'r gweinyddwyr fis Mawrth.
Ar y pryd roedd dros 10,000 o gwsmeriaid gydag arian yn eu cyfrifon ar-lein. Ar gyfartaledd, £8 oedd gan bob person, ond mae gan un cwsmer £1,000.
Mae'r gweinyddwyr yn trafod trosglwyddo cwsmeriaid Loteri Cymru i gwmni loteri arall.
Y gobaith yw y gallai cwsmeriaid sydd ag arian yn eu cyfrifon naill ai chwarae'r gêm newydd, neu dynnu eu harian allan.
Ond dydy trosglwyddo'r cwsmeriaid ddim yn debygol o gyfateb i werthiant y busnes a fyddai'n galluogi S4C i adennill ei buddsoddiad.
Beth oedd Loteri Cymru?
£1 oedd cost chwarae Loteri Cymru yn wythnosol, gyda jacpot gwerth £25,000.
Darlledwyd canlyniadau'r gêm gyntaf ar S4C ar 28 Ebrill 2017.
Talodd dros £350,000 o wobrau, a dosbarthodd £120,000 i achosion da yng Nghymru.
Pan lansiodd Loteri Cymru, dwedodd y corff bod gan un o bob naw chwaraewr y siawns o ennill gwobr, siawns oedd yn uwch na'r hyn sydd ei angen i ennill gyda gem 'Lotto' y Loteri Cenedlaethol.
Yn ystod saith wythnos cyntaf y gêm, fe enillodd dros hanner chwaraewyr Loteri Cymru wobrau.
Pan aeth Loteri Cymru i'r wal, fe gadarnhaodd S4C ei bod wedi "prynu hawliau i ddarlledu Loteri Cymru" ond doedd dim sôn am faint ei buddsoddiad ariannol yn y cwmni.
Yn dilyn cwestiynau gan 91Èȱ¬ Cymru, mae S4C wedi datgelu bod gan SDML "gytundeb gyda Loteri Cymru oedd yn cyfuno arian datblygu â ffioedd hawliau, gan roi hawliau ecsliwsif i S4C ddarlledu canlyniadau'r loteri".
Mewn datganiad, dywedodd S4C mai ei gobaith oedd "y byddai'r Loteri yn sefydlu ei hun fel digwyddiad wythnosol poblogaidd" ond bod Loteri Cymru wedi methu â denu digon o chwaraewyr i fod yn gynaliadwy.
Roedd hi'n "fater o bryder" i S4C bod nifer sylweddol o chwaraewyr wedi prynu tocynnau o flaen llaw wrth i'r loteri gau.
"O ganlyniad, mae S4C yn dweud bod SDML, ei braich fasnachol, "yn bwriadu ildio rhan o'r ad-daliad y gallai ei ddisgwyl o asedau Loteri Cymru" i sicrhau bod y chwaraewyr i gyd yn cael eu had-dalu.
Mae llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr, Suzy Davies AC, yn dweud i drafferthion Loteri Cymru godi cwestiynau am drefn S4C o graffu ar benderfyniadau masnachol.
Dwedodd Ms Davies: "Mae yna ddyletswydd o due dilligence ar unrhyw gorff sy'n gwario arian cyhoeddus, gan sicrhau bod unrhyw risg yn cael ei hasesu'n ddoeth. Yn anochel, bydd cwestiynau ynglŷn â'r llywodraethu o S4C pan fydd penderfyniad gwario wedi datblygu i fod mor wael â hyn.
"Mae'r adolygiad diweddar o S4C wedi argymell newid y strwythur llywodraethu. Mae'r bennod hon yn awgrymu bod hynny'n syniad da."
Mae SDML yn defnyddio cronfa masnachol S4C i fuddsoddi mewn mentrau sydd i fod i ddod ag incwm i S4C. Doedd dim arian o ochr gwasanaeth cyhoeddus y busnes wedi ei fuddsoddi yn Loteri Cymru.
Yn ôl S4C, mae'r "gwerth a grëwyd gan y grŵp masnachol yn ei gyfanrwydd dros y cyfnod yn fwy na'r golled yn sgîl Loteri Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018