91热爆

Cyngor Gwynedd yn penderfynu cau dwy ysgol ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
CoedmawrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Ysgol Coedmawr yn un o'r ysgolion fydd yn cau erbyn 2020

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi rhoi sel bendith i gynllun i gau dwy ysgol ym Mangor wrth ad-drefnu gwasanaethau yn y ddinas.

Bydd Ysgol Glanadda ac Ysgol Babanod Coedmawr yn cau yn 2020 gyda'r disgyblion yn symud i Ysgol y Garnedd, yn dilyn cymeradwyaeth y cabinet.

Bydd gan adeilad newydd Ysgol y Garnedd le i 420 o ddisgyblion ac fe fydd yn costio 拢12.7m.

Mae'r cyngor hefyd yn cynnal trafodaethau gyda'r Eglwys yng Nghymru yngl欧n 芒 chynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o 186.

Cynyddu capasiti

Yn 么l yr adroddiad gafodd ei drafod gan gynghorwyr, mae niferoedd disgyblion wedi "newid yn sylweddol ers 1980, gyda lleihad o 62% yn Ysgol Babanod Coedmawr, a 68% yn Ysgol Glanadda".

Yn ystod yr un cyfnod, mae niferoedd Ysgol y Garnedd wedi cynyddu o 55% meddai'r adroddiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar y cyngor sir, wedi dweud bod y cynllun yn "gyfle cyffrous"

Efallai o ddiddordeb...

Ym mis Mawrth, rhybuddiodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Glanadda y byddai'r drefn newydd yn gadael rhan o'r ddinas heb adnoddau addysgol.

Dywedodd John Wynn Jones: "Rydach chi'n amddifadu'r cyfle i'r plant - toes 'na ddim dewis iddyn nhw ddod i ysgol yn eu hardal eu hunain."

Ond mae'r aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Gareth Thomas wedi dweud bod y cynllun yn "gyfle cyffrous" i ddatblygu ysgol gynradd o'r radd flaenaf.

Ychwanegodd ei fod yn rhoi'r "cyfle gorau" i wella darpariaeth addysg gynradd a "chryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg" yn y ddinas.

Yn dilyn y cyfnod gwrthwynebu, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r cabinet am gymeradwyaeth terfynol.