Ad-drefnu ysgolion yn bygwth 'amddifadu' plant Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae cynnig i ad-drefnu ysgolion cynradd Bangor yn bygwth "amddifadu" plant mewn ardal eang o'r ddinas, yn 么l cadeirydd llywodraethwyr un ysgol allai orfod cau.
Ddydd Mawrth, fe benderfynodd cabinet Cyngor Gwynedd i lansio ymgynghoriad ar gynlluniau sy'n cynnwys buddsoddiad o 拢12.7m.
Byddai'n golygu cau Ysgol Glanadda ac Ysgol Babanod Coedmawr, gyda'r disgyblion yno'n cael cynnig lle yn Ysgol y Garnedd.
Y bwriad yw dyblu capasiti Ysgol y Garnedd drwy godi adeilad newydd sbon ar y safle presennol.
'Amddifadu'
Mae Ysgol y Garnedd tua milltir o safle Ysgol Glanadda, a rhybudd John Wynn Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Glanadda, yw y byddai'r drefn newydd yn gadael y rhan honno o'r ddinas heb adnoddau addysgol.
"O gau'r ysgolion yma, mi ydan ni wedyn yn amddifadu ardal eang o Fangor, lle mae na stad dai - Coed Mawr - a hefyd ardal ddifreintiedig Glanadda," meddai.
"Rydach chi'n amddifadu'r cyfle i'r plant - toes 'na ddim dewis iddyn nhw ddod i ysgol yn eu hardal eu hunain."
Yn 么l , mae gan ysgolion Glanadda a Choedmawr ganran uchel o lefydd gwag - sy'n groes i'r sefyllfa yn y Garnedd.
Mae'r adroddiad yn nodi bod yr ysgol honno "ar hyn o bryd yn darparu addysg i 305 o blant... ar safle sydd wedi ei gynllunio ar gyfer 210 o blant."
O dan y cynlluniau, byddai adeilad newydd sbon yn cael ei godi ar gyfer 420 o ddisgyblion ar y safle presennol a rhan o dir Ysgol Friars gerllaw.
'Cyflwr gwael'
Yn 么l Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar y cyngor sir, mae angen y buddsoddiad.
"Fel cyngor, rydan ni'n awyddus i sicrhau fod holl blant Gwynedd yn cael mynediad at yr adnoddau addysgol gorau posib mewn lleoliadau o ansawdd," meddai.
"Tra'n derbyn fod unrhyw opsiwn sy'n ystyried cau safleoedd yn benderfyniad anodd, rydw i'n teimlo fod yr opsiwn sydd gerbron yn cynnig cyfle i ni wella'r ddarpariaeth addysgol ym Mangor ac yn rhoi cyfle i ni gryfhau y ddarpariaeth Gymraeg yn y ddinas."
Rhan arall o gynnig y cyngor ydy ehangu a gwella Ysgol y Faenol, wrth i gwmni Redrow godi 245 o dai ar salfe Goetre Uchaf ym Mhenrhosgarnedd.
Byddai'r cwmni hwnnw'n cyfrannu at gost yr ad-drefnu a byddai 拢6.3m yn dod gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn penderfyniad i ddechrau ymgynghori, mae disgwyl penderfyniad terfynol ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2017