91热爆

Y Llywydd ddim am fynychu digwyddiad ailenwi pont

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Elin Jones ddiolch am y gwahoddiad, ond ei wrthod

Mae Llywydd y Cynulliad wedi gwrthod gwahoddiad i fynychu seremoni i nodi ailenwi Ail Bont Hafren ar 么l Tywysog Cymru.

Dywedodd Elin Jones ei bod yn "benderfyniad diddorol" gan Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns i gynnal y digwyddiad yn fuan wedi i Lywodraeth y DU wrthod morlyn llanw Bae Abertawe.

Bydd y digwyddiad i nodi'r ailenwi yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.

"Diolch am y gwahoddiad. Fyddai ddim yno," meddai Ms Jones ar Twitter.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd digwyddiad i nodi ailenwi'r bont yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu newid enw Ail Bont Hafren i Bont Tywysog Cymru.

Fe wnaeth y cyhoeddiad arwain at feirniadaeth hallt, gyda nifer yn anhapus nad oedd ymgynghoriad cyn y penderfyniad.

Cafodd deiseb oedd yn gwrthwynebu'r cynllun ei harwyddo gan 38,000 o bobl.

Daeth i'r amlwg ym mis Mai bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cefnogi'r penderfyniad i ailenwi'r bont cyn y cyhoeddiad.

Dywedodd llefarydd o Swyddfa Cymru bod Ms Jones wedi cael ei gwahodd "yn ei r么l fel Llywydd i ddigwyddiad i nodi ailenwi'r bont".

Ond gwadu hynny wnaeth Ms Jones ar Twitter gan ddweud bod y gwahoddiad wedi ei yrru at "Elin Jones AC, nid Llywydd".