91热爆

Betsan Powys yn gadael fel golygydd Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
betsan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Betsan Powys yn gadael y 91热爆 wedi 30 mlynedd yn gweithio i'r gorfforaeth

Mae Betsan Powys wedi cyhoeddi ei bod yn gadael ei r么l fel golygydd Radio Cymru.

Bu'n arwain yr orsaf ers pum mlynedd, gan oruchwylio cyfnod o newid mawr.

Cyn cymryd yr awenau gyda'r orsaf bu'n gyflwynydd Newyddion ar S4C i'r 91热爆, gan hefyd weithio ar ystod eang o raglenni newyddion i'r gorfforaeth fel Panorama a Week In Week Out.

Ar 么l cyfnod gyda ITV Cymru dychwelodd i'r 91热爆 gan ennill Newyddiadurwr Cymreig y Flwyddyn.

Bu hefyd yn gyfrifol am gynnyrch newyddion gwleidyddol 91热爆 Cymru o 2006.

Dywed Betsan Powys: "Dwi wedi mwynhau bob her, ar ac oddi ar y sgrin, bob trafodaeth greadigol, bob cyfle fel newyddiadurwraig yma'n 91热爆 Cymru ar hyd y blynyddoedd a chyda criw Y Byd ar Bedwar yn HTV Cymru.

"Bob cyfle i gynnig y rhaglenni a'r lleisiau gorau posib i wrandawyr Radio Cymru - a nawr mae hi'n bryd mwynhau cyfnod yr un mor hapus a gwerthfawr yng nghwmni'r teulu. "

Newidiadau

Pan gafodd ei phenodi yn 2013 dywedodd Ms Powys y byddai'n "gwrando gyda diddordeb ar 'Y Sgwrs' ac rwy'n gyffrous iawn am fy mod nawr yn cael y cyfle i arwain y gwasanaeth i ddyfodol newydd".

Cafodd 'Y Sgwrs' ei chynnal yn y cyfnod o gwmpas Eisteddfod 2013 pan oedd cyfle i wrandawyr Radio Cymru fynegi barn am gynnwys yr orsaf.

O ganlyniad i'r sgwrs, fe gafodd nifer o newidiadau eu gwneud i arlwy'r orsaf.

Ers dod yn olygydd hefyd, bu'n gyfrifol am sefydlu gorsaf ddigidol Radio Cymru 2 yn dilyn cyfnod o arbrofi gyda Radio Cymru Mwy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Betsan Powys yn gyfrifol am sefydlu gorsaf ddigidol Radio Cymru 2 yn dilyn cyfnod o arbrofi gyda Radio Cymru Mwy

Yn dilyn cyhoeddiad Betsan Powys, dywedodd Cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae cyfraniad Betsan i 91热爆 Cymru wedi bod yn rhyfeddol.

"Un o newyddiadurwyr gorau ei chenhedlaeth, mae ei gyrfa gyda'r adran newyddion a materion cyfoes wedi ei gweld ar raglenni megis Newyddion, Panorama, Week In Week Out, nifer fawr o raglenni Etholiadol arbennig yn ogystal 芒 chwe blynedd nodedig fel Golygydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru.

"Mae Radio Cymru wedi ffynnu o dan ei harweinyddiaeth sicr a chreadigol.

"Mae'n gyfnod o ffigyrau gwrando cryf a chadarn, a'r gynulleidfa'n gwrando ar fwy o raglenni nac ers blynyddoedd ac eleni gwelwyd creu ail orsaf - Radio Cymru 2.

"Mewn gwirionedd, mae'n ddatblygiad sy'n ddyledus i ymrwymiad taer Betsan i sicrhau'r gwasanaeth gorau posib ar gyfer y cynulleidfaoedd mae hi'n eu gwasanaethu a'u caru."

Fe fydd Betsan Powys yn gadael yn yr hydref.