91热爆

Betsan Powys i arwain 91热爆 Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Betsan Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Betsan Powys yn wyneb cyfarwydd i bobl sy'n gwylio rhaglenni gwleidyddol 91热爆 Cymru

Mae 91热爆 Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Betsan Powys sydd wedi'i phenodi yn olygydd rhaglenni Radio Cymru.

Bydd Betsan Powys yn gweithio'n agos gyda phennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg 91热爆 Cymru, Sian Gwynedd, a hi fydd yn gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio holl raglenni cyffredinol Radio Cymru.

Daw'r penodiad ar adeg pan y mae ffigyrau'n dangos bod llai nac erioed yn gwrando ar 91热爆 Radio Cymru, ac yn ystod sgwrs genedlaethol yngl欧n 芒'r orsaf a gyhoeddwyd gan gyfarwyddwr 91热爆 Cymru Rhodri Talfan Davies ym mis Ebrill.

Pwrpas y sgwrs yw sicrhau y bydd Radio Cymru yn parhau'n wasanaeth llwyddiannus, uchelgeisiol a bywiog am flynyddoedd i ddod.

Mae Betsan Powys wedi bod yn olygydd gwleidyddol 91热爆 Cymru Wales ers 2006, a chyn hynny bu'n gweithio ar raglenni Panorama, Week In Week Out a'r Byd ar Bedwar.

Hi oedd gohebydd celfyddydau a chyfryngau 91热爆 Cymru a chyflwynydd Mastermind Cymru ar S4C.

Dywedodd Sian Gwynedd, pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg 91热爆 Cymru: "Mae'n gyfnod heriol i Radio Cymru ond rydw i'n ffyddiog bod gan Betsan y sgiliau a'r profiad i ymgymryd yn egn茂ol 芒'r sialensiau sy'n wynebu'r orsaf.

"Rydw i'n edrych ymlaen at ei gweld hi'n rhoi ei stamp ei hun ar y gwahanol raglenni a sicrhau bod y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i'r gynulleidfa yn berthnasol ac o'r safon uchaf."

Dywedodd Betsan Powys ei bod yn edrych ymlaen at gymryd yr awenau.

"Mae arwain Radio Cymru yn mynd 芒 fi i gyfeiriad newydd ar 么l cyfnod cynhyrfus ym myd gwleidyddiaeth Cymru," meddai.

"Rwy'n edrych ymlaen i ddod i 'nabod a chydweithio 芒 staff Radio Cymru - t卯m talentog a chreadigol sydd wedi dangos cymaint o ymroddiad i'r orsaf. Byddaf yn gwrando gyda diddordeb ar 'Y Sgwrs' a rwy'n gyffrous iawn am fy mod i nawr yn cael y cyfle i arwain y gwasanaeth i ddyfodol newydd."

Bydd Betsan Powys yn dechrau ei swydd newydd ar Gorffennaf 1.