Cydnabod cyfraniad 100 Cymraes i'r genedl
- Cyhoeddwyd
Mae merched o fyd gwleidyddiaeth, y celfyddydau a byd y campau wedi eu cynnwys ar restr newydd o fenywod sydd wedi cyfrannu at fywyd Cymru.
Mae'r rhestr o 100, , yn nodi cyfraniad 50 o fenywod sy'n fyw heddiw, ac yn cofio am 50 o ferched pwysig yn hanes y genedl.
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru sydd wedi llunio'r rhestr i nodi canrif ers i rai merched gael y bleidlais.
O'r 50 o ferched dylanwadol yn hanes Cymru, bydd rhestr fer o bump yn cael ei llunio, a bydd un o'r pump yn cael ei dewis i fod yn destun cerflun yn Sgwar Canolog Caerdydd.
Daw hyn wedi cwynion am ddiffyg cerfluniau i gofnodi cyfraniad menywod yng Nghymru.
Dywedodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, sy'n ymgyrchu dros hawliau menywod, fod y rhai sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr wedi rhagori ym meysydd y ceflyddydau, busnes, addysg, gwleidyddiaeth, diwygio cymdeithasol a chwaraeon.
Ar y rhestr sy'n cael ei hystyried ar gyfer y cerflun mae Is-Iarlles Rhondda, Margaret Haig Mackworth, gafodd ei geni ym 1883, ac aeth ymlaen i fod yn fenyw fusnes ac yn aelod o'r Suffragettes.
Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys prifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, yr emynydd Ann Griffiths, a'r bardd a'r forwres, Sarah Jane Rees, neu Cranogwen.
Mae 50 o menywod sy'n fyw heddiw hefyd ar y rhestr, er na fyddan nhw'n cael eu hystyried ar gyfer y cerflun.
Yn eu plith, mae'r cantorion Shirley Bassey, Cerys Matthews a Rebecca Evans, yr actores Sian Phillips, a'r gwleidyddion Leanne Wood a Kirsty Williams
Dywedodd cyfarwyddwr y rhwydwaith, Catherine Fookes: "Mae ein 100 o fenwyod wedi gwneud cyfraniad pwysig i wleidyddiaeth, iaith, diwylliant a diwydiant yng Nghymru."
Cafodd digwyddiad ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth i gyhoeddi'r rhestr, dan y teitl, 100 Mlynedd, 100 Menyw: Dathliad o 100 o Fenywod Cymreig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd20 Medi 2016