Ditectifs ifanc yn datrys dirgelwch y gadair goll
- Cyhoeddwyd
Dirgelwch y gadair goll. Mae hi'n swnio fel un o straeon T Llew Jones, un o enwogion eraill ardal Llandysul. Ond stori ydy hon am Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, a'i chadair eisteddfodol.
Dros yr wythnosau diwethaf mae disgyblion Ysgol Penboyr yn Nhrefach-Felindre ger Llandysul wedi bod yn gweithio ar brosiect am y bardd a'r ymgyrchydd hawliau merched.
Hi oedd y ferch gyntaf i ennill y goron, un o brif wobrau barddonol yr Eisteddfod Genedlaethol. Dim ond 26 oed oedd hi pan ddaeth hi i'r brig yn Aberystwyth yn 1865 gan guro Islwyn a Ceiriog, dau o feirdd mawr y cyfnod.
Enillodd hi gadair yn ddiweddarach yn Eisteddfod Aberaeron. Mae'n debyg ei bod hi wedi cyflwyno'r gadair honno i Gapel Bancyfelin yn Llangrannog ble roedd hi'n pregethu yn aml.
Caeodd y capel yn 1995 ac roedd yna ansicrwydd beth oedd tynged y gadair. Ond mae disgyblion Ysgol Penboyr wedi datrys y dirgelwch.
Carol Jones yw Pennaeth Ysgol Penboyr a bu'n egluro mwy ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru.
"Ry'n ni yn gwneud prosiect ar gadeiriau eisteddfodol ar hyn o bryd," meddai. "Cyn y Nadolig fe wnaethon ni ymweld â'r Ysgwrn, catref Hedd Wyn, ac ryn ni'n goebithio mynd i weld cadair Mererid Hopwood cyn bo hir. Fe fuodd y plant yn dyfalu beth ddigwyddodd i gadair Cranogwen gan ei bod hi wedi ei magu yn yr ardal hon."
Ac yna dechreuodd y ditectifs ifanc ar eu gwaith gan ddefnyddio arf effeithiol iawn - gwefan Twitter.
Fe gafodd cyfrif Twitter yr ysgol help llaw gan nifer o ddefnyddwyr eraill i geisio darganfod â oedd unrhyw un yn gwybod ble roedd cadair Eisteddfod Aberaeron erbyn hyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar 23 Ionawr cyhoeddodd y disgyblion bod y dirgelwch wedi ei ddatrys.
"Fe gawson ni neges drydar gan athrawes yn Aberaeron yn dweud wrthon ni ei bod hi wedi gweld y gadair yng Ngholeg Trefeca ym Mhowys," eglurodd Carol Jones
"Ry'n ni'n gobeithio trefnu trip i'w gweld hi nawr. O bosib yr un diwrnod ac y bwyddwn ni'n mynd i weld cadair Mererid Hopwood."
Yn ogystal â gwneud enw iddi ei hun mewn cylchoedd barddonol roedd Cranogwen (1839-1916) yn wraig hynod mewn sawl ffordd.
Capten llong o Langrannog oedd ei thad ac fe wnaeth hithau weithio ar y môr cyn dod yn ôl i'w phentre genedigol ac agor ysgol yn 1859. Yno bu'n dysgu morwriaeth i rai o longwyr Ceredigion a dysgu plant i 'sgwennu a darllen.
Roedd hi'n angerddol dros hyrwyddo buddiannau merched. Am flynyddoedd bu'n olygydd , misolyn oedd yn rhoi cyngor i ferched am ac ystod eang o bynciau. Roedd hi hefyd yn ymgyrchydd brwd ar ran y mudiad dirwest gan gynnal cyfarfodydd drwy Gymru.
Roedd hi hefyd yn pregethu ar y Sul a thuag at ddiwedd ei bywyd bu'n ceisio lledaenu neges moesoldeb yng nghymunedau diwydiannol y de.