91热爆

Rhug i gadw ceirw achos pryder am gig oen wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Arglwydd Newborough
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Arglwydd Newborough yn "bryderus iawn" am oblygiadau Brexit ar y diwydiant cig oen

Mae un o ffermydd mwyaf Cymru wedi dechrau cadw ceirw oherwydd eu pryderon am ddyfodol y diwydiant cig oen ar 么l Brexit.

Yst芒d Rhug ger Corwen yn Sir Ddinbych yw un o'r cyflenwyr amlycaf o 诺yn organig ym Mhrydain.

Ond mae'r perchennog, yr Arglwydd Newborough, yn dweud ei fod yn "bryderus iawn" y bydd hi'n anoddach i ddod o hyd i farchnadoedd ar gyfer cig dafad ar 么l i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar y llaw arall, mae'n dweud bod y galw am gig carw ar gynnydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i sicrhau fod cysylltiadau masnachol uchelgeisiol newydd yn cael eu gwneud ar draws y byd yn dilyn Brexit.

Galw am gig carw

Mae'r busnes - gafodd Warant Brenhinol gan y Tywysog Charles yn gynharach yn y mis - eisoes yn cyflenwi cig carw y maen nhw wedi'i brynu'n lleol i fwytai a gwestai moethus yn Llundain, Hong Kong a Macau.

Ond nawr fe fyddan nhw'n cynhyrchu'r cig eu hunain, a hynny ar y fferm.

Disgrifiad,

Dywedodd rheolwr Ystad Rhug, Gareth Jones mai'r farchnad sy'n dylanwadu ar yr hyn maen nhw'n ei gynhyrchu

Mae'n rhan o strategaeth yr Arglwydd Newborough i "sicrhau dyfodol i'r busnes ar 么l Brexit".

Mae wedi cyflwyno math o garw bach i'r fferm - y Sika - sy'n deillio o Japan ac yn enwog am ei flas, ac am fod y cig yn isel mewn braster.

"Mae'n gynnyrch fydd yn hawdd i ni ei werthu am fod cogyddion amlwg yn galw amdano," meddai.

"A gan fod gennym ni gysylltiadau gyda'r farchnad yn barod fe fydd hi'n haws i ni wneud hyn na fydd hi i eraill."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae fferm Rhug wedi dechrau magu ceirw math Sika o Japan

Wedi'i wasgaru dros 8,000 o erwau ger Corwen, ac ar safle arall ar Yst芒d Glynllifon ger Caernarfon, mae gan y fferm oddeutu 5,000 o ddefaid sy'n cynhyrchu 7,500 o wyn yn flynyddol.

"Mae canran uchel o'n 诺yn ni'n cael eu danfon i'r cyfandir, ond dyda' ni ddim yn gwybod be fydd y dyfodol o ran allforio i'r Undeb Ewropeaidd," eglurodd yr Arglwydd Newborough.

"Ry'n ni'n gyfarwydd iawn ac anfon cynnyrch dros F么r Hafren lle mae croeso brwd iddo, ond bydd cael mynediad i farchnadoedd newydd yn anodd.

"A byddwn ni'n cystadlu gyda gwledydd hemisffer y de, sy'n cynhyrchu 诺yn sy'n llawer mwy o faint ac yn dominyddu marchnadoedd fel Singapore a'r Dwyrain Canol."

Disgrifiad,

Mae Louise McNutt yn rhan o'r o鈥檙 t卯m sy鈥檔 gwerthu鈥檙 cig carw i fwytai a gwestai moethus

Daw'r sylwadau wrth i Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths ymweld 芒 Seland Newydd, sy'n allforio 95% o'u cig oen i dros 100 o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys Prydain.

Yn y gorffennol mae hi wedi rhybuddio y gallai cytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd ar 么l Brexit "chwalu" diwydiant cig oen Cymru.

Cydweithio'n agosach

Mynnodd Hybu Cig Cymru yr wythnos hon y gallai'r ddwy wlad gydweithio'n agosach i weinyddu marchnadoedd newydd ar 么l Brexit, gan eu bod yn cynhyrchu 诺yn ar adegau gwahanol o'r flwyddyn.

Ond ychwanegodd Gwyn Howells, prif weithredwr y corff, bod angen "mynd i'r afael 芒'r heriau y mae Brexit yn ei gyflwyno o ran mynediad i farchnad Ewrop" yn gyntaf.

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 93% o allforion cig oen Cymreig wedi mynd i'r Undeb Ewropeaidd yn 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cael cytundeb da gan yr UE, cytundeb sy'n gweithio i'r holl DU, ac mae hynny'n cynnwys cynhyrchwyr o Gymru.

"Wrth i'r DU adael yr UE, byddwn yn creu cysylltiadau masnachol uchelgeisiol newydd ar draws y byd, gan sicrhau fod ffermwyr a chynnyrch o Gymru yn cyrraedd cwsmeriaid newydd."