Gwaharddiad posib i allforio anifeiliaid byw wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Gall allforio anifeiliaid byw ar gyfer difa gael ei wahardd yn dilyn Brexit.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru - sy'n gwrthwynebu'r gwaharddiad posib - yn amcangyfrif bod hyd at 20,000 o ddefaid, ond dim gwartheg, wedi eu hallforio i Ewrop yn 2017.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ymchwiliad i mewn i'r gwaharddiad posib er mwyn sicrhau'r safonau lles uchaf posib, ond mae'r undeb o'r farn y byddai'n gamgymeriad mawr.
Ar hyn o bryd mae allforio byw yn gyfreithlon oherwydd rheolau masnach rydd yr UE. Byddai gwaharddiad o'r fath yn bosib ar 么l i'r DU adael yr UE.
Mae'r cynigion hyn yn ymwneud yn unig ag allforio anifeiliaid i'w lladd, ac nid 芒 gwahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion cynhyrchu neu fridio.
'Er lles yr anifeiliaid'
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths y byddai Llywodraeth Cymru'n croesawu newid mewn masnach er lles yr anifeiliaid.
"Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau lles uchaf posib ar gyfer pob anifail yng Nghymru ac mae ein barn ynghylch allforio anifeiliaid byw i'w lladd yn glir.
"Byddai'n well gennym fod anifeiliaid yn cael eu lladd cyn agosed 芒 phosib i'w man cynhyrchu a chredwn fod masnachu cig a chynhyrchion cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell i'w lladd."
Mae cwmn茂au fferi Prydeinig wedi gorffen cludo anifeiliaid byw ar gyfer difa ers 2007. Dim ond un cwch preifat sydd yn parhau i gludo'r anifeiliaid, a hynny o Ramsgate yng Nghaint.
'Camgymeriad'
Mae Undeb Amaethwyr Cymru ymysg y rhai sydd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad.
Dywedodd Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru y byddai'r gwaharddiad yn gamgymeriad ac yn arwydd o feddwl "tymor byr".
Mae'r Undeb yn ofni gweld tollau o hyd at 50% ar gig yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno hefyd i weithio 芒 Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i ystyried sut y gellid gwella safonau lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo a chefnogi rhagor o waith ymchwil yn y maes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2017