91热爆

Leanne Wood yn gwrthod cyfeirio Plaid Cymru i'r canol

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Leanne Wood yn annerch y gynhadledd ddydd Gwener

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gwrthod yr alwad i ail-leoli Plaid Cymru mewn gwleidyddiaeth.

Ddydd Gwener dywedodd un aelod seneddol petai Plaid Cymru yn ceisio cystadlu 芒 Phlaid Lafur Jeremy Corbyn mi allai ddiflannu i ebargofiant.

Mynnodd Jonathan Edwards y dylai'r blaid anelu am y tir canol - man sydd wedi'i adael yn wag gan y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr.

'Gwahanol yng Nghymru'

Ond wrth siarad yng nghynadledd wanwyn Plaid Cymru dywedodd Ms Wood wrth 91热爆 Cymru: "Llafur Cymru yw'r tir canol yng Nghymru ac fe ellid dadlau bod y man canol hwnnw wedi'i lenwi".

Tra'n cael ei holi ar gyfer rhaglen deledu dywedodd: "Dwi'n meddwl fod y cwestiwn am wleidyddiaeth yng Nghymru yn wahanol i'r un yn Lloegr.

"Ac yn wir a yw pobl yn ein cymunedau wir yn meddwl am wleidyddiaeth yn y termau hynny? Dwi i ddim yn credu hynny.

"Dwin meddwl bod pobl yn cefnogi pleidiau sy'n cael eu gweld yn brwydro drostynt ac sy'n ceisio gwella eu safonau byw a phethau fel amserau aros ac yn y blaen.

"Dyw'r rhan fwyaf o bobl gyffredin ddim yn gweld gwleidyddiaeth yn y termau hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jonathan Edwards yw AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Cafodd sylwadau Jonathan Edwards eu hadleisio gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.

Dywedodd Ms Roberts hefyd y dylai Plaid Cymru fod yn barod i gydweithio 芒'r Ceidwadwyr er mwyn disodli llywodraeth Lafur yng Nghymru.

Ond fe ailadroddodd Ms Wood ei gwrthwynebiad i glymbleidio 芒'r Ceidwadwyr.

Tra'n cael ei holi am undod ddydd Gwener dywedodd Ms Wood: "Mae Cymru angen llywodraeth newydd ac mae Plaid Cymru yn barod i fod y llywodraeth honno ond er mwyn cyrraedd y man lle mae pawb yn ein cefnogi rhaid i ni fod yn unedig ac mae'n rhaid i'n pwrpas a'n cyfeiriad fod yn glir."

Yn ddiweddarach ddydd Sadwrn mae disgwyl i Adam Price AC, llefarydd economi'r blaid, ddweud y byddai Plaid Cymru yn ffurfio cwmni awyrennau cenedlaethol a grid ynni, ac yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth petaent yn cael dau dymor o ffurfio llywodraeth.