Leanne Wood: 'Angen i Plaid sefyll ysgwydd wrth ysgwydd'
- Cyhoeddwyd
Mae Leanne Wood wedi dweud bod angen i aelodau Plaid Cymru sefyll "ysgwydd wrth ysgwydd" os yw'r blaid am drechu Llafur.
Yng nghynhadledd wanwyn y blaid yn Llangollen, dywedodd Ms Wood mai ei phlaid hi oedd yr unig blaid a allai gynnig "llywodraeth arall" yng Nghymru.
Ond mae angen i'r blaid uno a chefnogi "rhaglen bositif" i ddangos i bleidleiswyr eu bod yn cynnig dewis arall.
Mae neges Ms Wood yn dod wedi i ddau o ASau Plaid, ddweud bod angen iddynt ail-sefydlu eu hunain fel plaid sy'n eistedd yn y tir canol, ac y dylent fod yn barod i weithio gyda'r Ceidwadwyr.
Cafodd ei haraith ei defnyddio fel ap锚l i geisio "adeiladu cenedl newydd".
'Tynnu i'r un cyfeiriad'
Roedd yr araith yn cynnwys cynnig o gyflwyno mwy o hawliau i ofal iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, gyda'r bygythiad o ddirwyon i fyrddau iechyd os nad ydynt yn gallu bodloni targedau amseroedd aros.
Dechreuodd araith Ms Wood gydag ap锚l i'r blaid "wrthsefyll grym" Llywodraeth y DU dros y pwerau sy'n dychwelyd o Frwsel wedi Brexit.
Ond daeth i ben gyda galwad ar y blaid i "gymryd y cam nesaf tuag at fod yn Llywodraeth yng Nghymru".
"Ni yw'r unig blaid sydd wedi gallu cynnig ymgeisydd arall ar gyfer swydd y prif weinidog yng Nghymru," meddai.
"Ond rydym angen rhaglen bositif ein hunain.
"Dim ond drwy dynnu i'r un cyfeiriad y gallwn gyflawni hyn, mae angen i ni sefyll ysgwydd wrth ysgwydd er mwyn cyrraedd lle yr ydym am fod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018