Dyn yn euog o lofruddio'i gyn-bartner yn Ninbych
- Cyhoeddwyd
Mae dyn drywanodd ei gyn-gariad ar stryd yn Ninbych wedi ei gael yn euog o'i llofruddio.
Bu farw Laura Stuart, 33 oed, ddeuddydd ar 么l cael ei thrywanu wrth adael tafarn yn y dref fis Awst y llynedd.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Jason Cooper, 28 oed o Ddinbych, wedi anfon cyfres o negeseuon cas at Ms Stuart yn bygwth ei lladd.
Clywodd yr achos hefyd ei fod wedi bod yn yfed mewn bar lleol drwy'r dydd, cyn mynd adref i 'n么l cyllell ar ddiwrnod yr ymosodiad.
Dyfarniad unfrydol
Bu'r rheithgor yn ystyried y dystiolaeth am lai nag awr cyn penderfynu ar ddyfarniad.
Fe gafodd y rheithgor Cooper hefyd yn euog o achosi niwed bwriadol i ddyn a geisiodd helpu Ms Stuart.
Roedd y diffynnydd yn gwenu wrth gyrraedd y llys. Wnaeth e ddim dangos emosiwn wrth i'r dyfarniad gael ei gyhoeddi.
Cafodd wybod na fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher. Does dim dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer hynny.
Roedd Ms Stuart yn gweithio mewn cartref gofal ar adeg yr ymosodiad, ac wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei rheolwr, Colin Jones, o MHC Social Care, ei bod yn "weithiwr caled a phroffesiynol".
"Daeth i weithio i ni ym mis Ionawr 2016, ac fe ddefnyddiodd ei gwybodaeth gofal er mwyn darparu gofal o'r ansawdd gorau i'r preswylwyr yr oedd hi'n gweithio gyda nhw.
"Cafodd holl gydweithwyr Laura ei syfrdanu a'r hyn ddigwyddodd ac mae hi'n golled fawr i'r t卯m."
Ymchwiliad
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, yr IOPC, ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i weld a fedrai'r heddlu fod wedi gwneud mwy i amddiffyn Ms Stuart yn yr wythnosau a'r dyddiau cyn yr ymosodiad.
Mae'n edrych ar ymateb yr heddlu i'w chwynion fod ei chyn-bartner yn anfon lli o negeseuon ati.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Awst 2017