91热爆

IPCC yn ymchwilio i farwolaeth Laura Stuart yn Ninbych

  • Cyhoeddwyd
laura stuartFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Laura Jayne Stuart o'i hanafiadau yn yr ysbyty ddydd Sul

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cadarnhau y byddant yn ymchwilio'n annibynnol i'r cysylltiad fu rhwng Heddlu'r Gogledd a Laura Stuart cyn ei marwolaeth.

Bu farw Ms Stuart ddydd Sul wedi iddi gael ei thrywanu yn Ninbych.

Ychwanegodd y Comisiwn y byddant yn cysylltu 芒 theulu Ms Stuart yn fuan er mwyn egluro eu rhan yn yr ymchwiliad.

Ddydd Mercher bu dyn 27 oed ger bron Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio Laura Stuart ac achosi niwed bwriadol mewn digwyddiad yn Ninbych dros y penwythnos.

Mae Jason Cooper wedi'i gyhuddo o geisio lladd Laura Jayne Stuart, 33 o'r dref, ac anafu dyn arall, David Roberts, yn gynnar fore Sadwrn.

Bu farw Ms Stuart, oedd yn fam i ddau o blant, yn yr ysbyty ddydd Sul.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei bod yn anochel y byddai'r diffynnydd yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Ms Stuart.

'Merch, chwaer a modryb'

Roedd Mr Cooper yn ymddangos trwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl, ac ni wnaeth gais am fechn茂aeth.

Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Stuart ddydd Llun eu bod yn torri'u calonnau o golli "merch, chwaer a modryb brydferth, ac yn fwy na dim, mam i ddau o blant hyfryd".