Ymateb 'gwych' i ap锚l siaradwyr Cymraeg claf dementia
- Cyhoeddwyd
"Llwyddiant sy'n codi'r galon" yw disgrifiad un o swyddogion Cyngor Sir Fynwy ar 么l i chwech o bobl leol ymateb i gais am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith i helpu dynes yn ei 80au sydd 芒 dementia a "mwy neu lai ond yn siarad Cymraeg".
Ddydd Mawrth roedd ap锚l ar ran y ddynes, sy'n wreiddiol o Ben Ll欧n ond mewn cartref yng Nghas-gwent, lle nad oes yr un o'r staff yn siarad yr iaith.
"Mae'r ymateb wedi bod yn wych yn barod," meddai Alan Burkitt o Gyngor Sir Fynwy.
"Mae 'na chwech o bobl, i gyd o Ben Ll欧n yn wreiddiol, wedi gwirfoddoli i helpu. Mae pump yn byw yn y sir ac un yng Nghaerdydd."
Fe wnaeth Mr Burkitt, Swyddog Polisi Cydraddoldebau a'r Iaith Gymraeg y cyngor, helpu i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg ar 么l i'r cartref fethu yn eu hymdrechion nhw.
Yn wreiddiol roedd y cyngor wedi ceisio cyflogi gofalwr oedd yn rhugl yn y Gymraeg, ond bu hynny'n aflwyddiannus.
'Y ddynes yn hapusach'
Dywedodd Mr Burkitt fod y ddynes wedi "mynd 'n么l i'r famiaith" yn sgil y dementia, a bod y trafferthion cyfathrebu yn achosi rhwystredigaeth iddi hi ac i staff cartref Severn View.
"Mae'r ymateb wedi bod yn wych. O fewn diwrnod roedd 'na un person wedi mynd i'r cartref yn ddirybudd i siarad gyda'r ddynes.
"Dwi'n gwybod i reolwr y cartref ddweud wedyn bod hwyliau'r ddynes llawer yn hapusach ar 么l yr ymweliad a bod hynny o ganlyniad i allu siarad yn ei mamiaith.
"Roedd hynny yn bwysig i bobl ei weld, bod y Gymraeg yn help mawr."
Mae'n debyg i'r ymwelydd adael heb adael unrhyw fanylion, ond ar 么l hynny fe wnaeth chwech o bobl eraill gysylltu gyda'r cyngor er mwyn gwirfoddoli.
Ychwanegodd Mr Burkitt fod ap锚l y sir am siaradwyr Cymraeg yn parhau.
Dywedodd: "Dwi hefyd yn gwybod fod yna drafodaeth wedi bod ar y pwnc ar Facebook, ac mae'n bosib y bydd mwy yn gwirfoddoli.
"O bosib bod y bobl hyn ond yn gallu ymweld am un neu ddwy awr bob wythnos, felly mae'n bwysig ein bod yn cael gymaint 芒 phosib o wirfoddolwyr."
Mae disgwyl y bydd yr awdurdod lleol yn ail-hysbysebu swyddi gofalwyr yn y dyfodol agos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd19 Mai 2017