Cleifion dementia Cymraeg yn aros yn hirach am ddiagnosis
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion dementia sy'n siarad Cymraeg yn cael diagnosis hwyrach na'r rhai sy'n uniaith Saesneg, yn 么l ymchwil newydd.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn awgrymu mai'r gwahaniaeth amser, ar gyfartaledd, yw tair blynedd.
Mae 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia.
A hithau'n wythnos ymwybyddiaeth dementia, mae ffigyrau yn dangos nad yw hanner y cleifion sy'n byw gyda'r cyflwr wedi cael diagnosis ffurfiol.
Erbyn 2055 mae ffigyrau gan King's College yn Llundain yn amcangyfrif y bydd dros 100,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ddementia.
'Llai tebygol i siarad'
Un awgrym sy'n cael ei gynnig dros yr oedi yn y diagnosis yw bod Cymry Cymraeg yn llai tebygol i siarad yn gynnar am eu hafiechyd.
Yn aml, mae gan Gymry Cymraeg mwy o gefnogaeth yn eu cymunedau.
Un o'r ysbytai sy'n flaengar o ran y gofal i'r cyflwr yw Ysbyty Alltwen ym Mhorthmadog, ac un o'r cleifion sy'n cael triniaeth yno yw Glenda Roberts o Bwllheli, fuodd ei hun yn gweithio mewn ysbyty.
Dywedodd wrth Newyddion 9: "Roeddwn i yn 53 pan ges i ddiagnosis ac roedd yn rhaid i mi adael y gwaith o fod yn ofalwr iechyd. Ro'n i methu gwneud fy ngwaith 100%.
"Doeddwn i, er enghraifft, ddim yn cofio pwy oedd yn cael siwgr yn eu te a doeddwn i ddim yn cofio pwy oedd yn cael llefrith.
"Pethau bach oedden nhw - ond do'n i ddim yn iawn a ro'n i'n teimlo fy mod yn siomi pobl.
"Pan ges i'r diagnosis - rodd e'n rhyddhad. Unwaith i fi gael diagnosis ro'n i'n teimlo lot gwell."
'Y Gymraeg yn bwysig'
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i chi fod yn bositif. Mae'n bwysig fod pawb yn cael triniaeth yn eu hiaith eu hunain. Mae'r Gymraeg yn bwysig.
"Ym Mryn Beryl, lle arferwn weithio, roedd 'na lawer o gleifion o Wlad Pwyl. Roedden ni i gyd yn gwybod ambell air o Bwyleg gan fod hynny mor bwysig."
Mae dementia yn costio 拢1.4bn y flwyddyn yng Nghymru - mwy na 拢30,000 y pen i bob dioddefwr.
Ond yn 么l arbenigwyr, yr hyn sy'n bwysig yw nad oes stigma yngl欧n 芒'r cyflwr, ac mae anogaeth hefyd ar i bobl fynd i weld meddyg yn gynnar.