91热爆

Galw am ymchwiliad i statws stiwdio Pinewood

  • Cyhoeddwyd
Pinewood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth y daeth i'r amlwg bod Pinewood wedi stopio talu rhent

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am "ymchwiliad ffurfiol" gan y Cynulliad i berthynas Llywodraeth Cymru gyda chwmni Pinewood Studio Wales.

Daw'r alwad wedi iddi ddod i'r amlwg nad yw'r cwmni'n talu am ddefnyddio'r adeilad y mae'n rhentu gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

Cytunodd y cwmni a gweinidogion y llywodraeth ar brydles 15 mlynedd yn Ionawr 2015, ond mae 91热爆 Cymru yn deall nad ydy'r cwmni'n cael ei gyfrif fel tenant mwyach yn y safle yng Ngwynll诺g.

Dydy Pinewood heb ymateb, ond yn 么l llefarydd Llywodraeth Cymru mae'r cwmni ffilm "yn parhau'n gwbwl ymroddedig i Gymru ac yn parhau i ddefnyddio stiwdio yng Ngwynll诺g dan gytundeb newydd, dan delerau cyfrinachol".

Mwy o gwestiynau

Dim ond yn Ionawr 2017 y gwnaeth Pinewood ddechrau talu rhent ar eu stiwdio yng Nghaerdydd ar 么l iddi ddod i'r amlwg na fu'n rhaid i'r cwmni dalu rhent am y ddwy flynedd gyntaf yno.

Roedd y telerau'n rhan o gytundeb i ddenu'r cwmni i'r safle ar 么l i Lywodraeth Cymru brynu hen ganolfan ynni ar gyrion y ddinas.

Mewn ymateb i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth y cafodd 91热爆 Cymru gadarnhad nad ydy Pinewood yn 'denant' erbyn hyn.

Er gwaethaf datganiad bod y cwmni a'r llywodraeth wedi taro bargen newydd mewn perthynas 芒'r stiwdio, does dim rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi "am resymau masnachol".

Mewn ymateb i gwestiynau yn y Senedd ar 6 Rhagfyr, dywedodd y gweinidog diwylliant, Dafydd Elis-Thomas wrth ACau bod "Pinewood yn parhau'n ymroddedig i weithredu'r stiwdio yng Ngwynll诺g ac i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilm o safon uchel".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae telerau'r cytundeb newydd gyda Pinewood yn gyfrinachol medd Llywodraeth Cymru

Ond mae llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Suzy Davies, a gododd y mater yn y Senedd, wedi galw am fwy o wybodaeth am y berthynas rhwng y ddwy ochr.

Dywedodd Ms Davies: "Mae'n ymddangos nad yw'r newyddion yma'n cydfynd 芒'r hyn ddywedodd y gweinidog diwylliant bythefnos yn 么l.

"Yn hytrach, mae yna fwy o gwestiynau ynghylch perthynas Llywodraeth Cymru gyda Pinewood ac a oes yna berthynas o gwbl nawr.

"Ers fy nghwestiynau diwethaf i Lywodraeth Cymru rydw i wedi cael dau gynnig i gwrdd 芒'r gweinidog i drafod y mater ymhellach yn y flwyddyn newydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd modd cael eglurder oherwydd mae'r negeseuon cymysg gan Lywodraeth Cymru yn annhebygol o helpu'u hymdrechion i wneud Cymru'n le deniadol ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm o safon uchel."

Mantais dros ranbarthau eraill

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cael brand mor adnabyddus 芒 Pinewood yma yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy i'n sector ffilm a theledu".

"Mae eu presenoldeb yma wedi helpu dyrchafu Cymru i fod yn lleoliad cynhyrchu o'r radd flaenaf ac wedi rhoi mantais ar lefel ryngwladol dros ranbarthau eraill."

Mewn ymateb i'r datganiad hwnnw, dywedodd Ms Davies: "Rydym yn gwybod bod y brand yn un dda, ac y byddai'n werthfawr i Gymru.

"Ond rwy'n meddwl ein bod erbyn hyn mewn sefyllfa lle mae cwestiynau'n arwain at fwy o gwestiynau ac mae angen ymchwiliad ffurfiol yn y Cynulliad yngl欧n 芒'r trefniant gyda Pinewood, ac efallai yngl欧n 芒 buddsoddi mewn ffilm yn gyffredinol."

"Tair blynedd yn unig y'n ni i mewn i gytundeb [15 mlynedd] a dy'n ni ddim yn gwybod be sydd wedi mynd o'i le na pam oedd angen trefniant newydd."

Mae'r stiwdio wedi bod yn gartref i nifer o gynyrchiadau drama a ffilm o bwys ers cychwyn y cytundeb gyda Pinewood, gan gynnwys Journeys End, The State a'r bedwaredd gyfres o Sherlock.

Mae datganiad Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud bod y safle'n gartref i gynhyrchiad drama o bwys ar gyfer Channel 4 yn ogystal 芒 chwmn茂au ategol i'r broses gynhyrchu fel Andy Dixon Facilities, Real SFX a Lubas Medical.