91热爆

Pinewood: Cyfeirio Llywodraeth Cymru at Gomisiynydd

  • Cyhoeddwyd
pinewood cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyfeirio at y Comisiynydd Gwybodaeth wedi honiad iddyn nhw wrthod ateb cwestiwn am eu perthynas gyda chwmni Pinewood Studios.

Yn 2015 fe wnaeth Pinewood Studios Wales ddechrau rhentu hen warws yng Nghaerdydd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Pinewood ymgymryd 芒 phrydles 15 mlynedd gyda chymal diddymu ar 么l pum mlynedd, ond mae termau'r cytundeb wedi cael eu newid yn dilyn trafodaethau.

Mae'r AC Ceidwadol Suzy Davies yn honni nad yw ei chwestiynau i'r llywodraeth am y berthynas rhwng y ddwy ochr wedi cael eu hateb, ac mae wedi gofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth ymyrryd yn yr achos.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod hi'n ymddangos bod Suzy Davies "yn fwriadol yn dwyn anfri ar y diwydiant creadigol" a bod ffilmiau a chynyrchiadau yng Nghymru, sydd wedi eu hariannu gan y llywodraeth, wedi gwario dros 拢100m yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Suzy Davies AC wedi cyfeirio'r mater at y Comisiynydd Gwybodaeth

Dywedodd Suzy Davies: "Rwyf wedi bod yn gwthio Llywodraeth Cymru am beth amser i roi manylion am eu perthynas gyda Pinewood, y Gyllideb Fuddsoddi Cyfryngau a thryloywder y penderfyniadau gafodd eu gwneud.

"Rwyf hefyd wedi gofyn iddyn nhw egluro'u disgwyliadau a dangos gwerth am arian yn eu cefnogaeth i'r hyn mae Pinewood wedi cyflawni i Gymru.

"Fodd bynnag dydyn nhw ddim am roi ateb i mi.

"Ar 么l gwario arian cyhoeddus ar y prosiect yma, mae angen i Pinewood aros yng Nghymru a phrofi'r gwerth am arian yna. Dyna pam rwyf hefyd wedi bod yn gofyn beth mae Lywodraeth Cymru wedi gwneud i annog Pinewood i beidio gweithredu'r cymal diddymu yn eu cytundeb.

"Cafodd rhai o'r cwestiynau yma eu cyflwyno ym mis Medi, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddweud y byddan nhw'n cysylltu 'n么l gyda manylion llawn, dydyn nhw ddim wedi gwneud.

"Mae'n hen bryd iddyn nhw ddechrau ateb rhai o'r cwestiynau yna, a dyna pam rwyf wedi cyfeirio'r mater at swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth."

'Anwybyddu ffigyrau'

Yn ddiweddar fe wnaeth 91热爆 Cymru ofyn i'r llywodraeth i ymateb i gwestiynau manwl am y berthynas newydd gyda Pinewood, ond fe gawson nhw wybod na fyddai'r llywodraeth yn ateb cwestiynau am resymau masnachol.

Yn hytrach fe wnaethon nhw gyhoeddi datganiad oedd ddim yn ateb y materion a godwyd, ond a ddywedodd bod "termau'r cytundeb yn gyfrinachol...ond mae Pinewood yn gwbl ymroddedig i weithredu'r stiwdio yng Ngwynll诺g".

Wrth ymateb i benderfyniad Suzy Davies i gyfeirio'r llywodraeth at y Comisiynydd Gwybodaeth dywedodd llefarydd bod yr AC yn "anwybyddu ffigyrau sydd yn dangos dros y bum mlynedd ddiwethaf, bod ffilmiau a chynyrchiadau teledu sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi gwario dros 拢100m yng Nghymru".

Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod cannoedd o fusnesau wedi eu cefnogi a 2,000 o swyddi wnaeth bara blwyddyn wedi eu creu.

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi ymateb i nifer o geisiadau rhyddid gwybodaeth yngl欧n 芒 Pinewood, ac nad ydynt wedi derbyn unrhyw gwynion am eu hymatebion.

Mae'r llywodraeth yn hapus meddai'r datganiad i "gynnal adolygiad llawn i unrhyw ymholiad os oes yna gais i wneud hynny".