91热爆

Stiwdio James Bond 'yn mynd o nerth i nerth'

  • Cyhoeddwyd
pinewood cymru

Mae'r stiwdio sy'n gyfrifol am lwyddiant ffilmiau James Bond yn nodi blwyddyn ers cyhoeddi cynlluniau datblygu.

Ers misoedd mae staff Pinewood Shepperton wedi symud i mewn i'r ganolfan 180,000 troedfedd sgw芒r yng Ngwynllwg rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sy'n ymweld 芒'r stiwdio er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiannau creadigol i'r economi.

Mae'r gwaith ar un o gynyrchiadau cyntaf Pinewood ar fin dechrau, Bastard Executioner, drama hanesyddol ar gyfer sianel gebl FX yn yr Unol Daleithiau.

Gwrthryfel

Hanes marchog o'r 14eg ganrif yw hwn a drodd yn ddienyddiwr yn ystod teyrnasiad Edward III a'r cefndir yw gwrthryfel yng Nghymru.

Y sgriptiwr yw Kurt Sutter greodd y gyfres Sons Of Anarchy.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 拢30m i gefnogi saethu ffilm a drama deledu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Y gobaith yw y bydd yn cynhyrchu 拢90m ar gyfer yr economi.