Cyngor i drafod canolfan awyrofod 拢25m yn Llanbedr

Ffynhonnell y llun, Geograph/Roger Brooks

Disgrifiad o'r llun, Roedd 130 o bobl yn gweithio ym maes awyr Llanbedr cyn i'r safle gau yn 2004

Gallai cynlluniau i sefydlu canolfan awyrofod ar hen faes awyr Llanbedr yng Ngwynedd gostio 拢25m a chreu 100 o swyddi, yn 么l .

Datblygu a threialu cerbydau sy'n cael eu rheoli o bell fyddai arbenigedd y safle dan gynlluniau sy'n cael eu datblygu dan faner Canolfan Awyrofod Eryri.

Mae 拢1.5m eisoes wedi ei wario ar welliannau ond mae angen creu mynedfa newydd i'r maes awyr sy'n osgoi canol pentref Llanbedr.

Hefyd mae angen gwella rhedfeydd, y system Rheoli Traffig Awyr a rhai adeiladau.

Mae gofyn i Gyngor Gwynedd gymryd r么l arweiniol yn natblygiad y cynllun a chyfrannu 拢500,000 at gost uwchraddio'r safle.

Cryfhau achos Porth Gofod

Byddai'r cerbydau sy'n cael eu datblygu yn cynnwys cerbydau tir a morol yn ogystal ag awerynnau.

Mae'r adroddiad i gabinet y cyngor yn argymell na ddylai'r cyngor roi'r 拢500,000 onibai bod partneriaid eraill yn buddsoddi swm cyfatebol.

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y safle, sydd ar les tymor hir i Snowdonia Aerospace - cwmni sy'n gweithio'n agos gyda chwmni amddiffyn rhyngwladol QinetiQ.

Disgrifiad o'r llun, Mae QinetiQ yn treialu dr么ns masnachol all fonitro datblygiadau fel erydu arfordirol

Mae trefnwyr y cynllun yn ceisio sicrhau 拢7.5m o arian Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru.

Dywed yr adroddiad y byddai uwchraddio'r safle "yn cryfhau'r achos i drwyddedu'r safle'n borth gofod, fydd yn ei dro yn gallu ddod 芒 nifer sylweddol o swyddi yn ychwanegol, i'r ardal ac i Gymru".

Mae hefyd yn dweud bod wedi rhoi blaenoriaeth i'r prosiect ar gyfer cynlluniau isadeiledd rhanbarthol sy'n gymwys i geisio am gyllid Ewropeaidd.

Mae disgwyl y bydd cais cynllunio i ddatblygu maes awyr Llanbedr yn cael ei gyflwyno i WEFO (Cronfeydd yr UE yng Nghymru) cyn diwedd 2017.