Maes Awyr Llanbedr: un o wyth lleoliad dan ystyriaeth
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad bod Maes Awyr Llanbedr yng Ngwynedd yn un o wyth lleoliad dan ystyriaeth gan Lywodraeth San Steffan i sefydlu maes awyr i lansio awyrenau masnachol i'r gofod o 2018 ymlaen.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn Sioe Awyr Farnborough gan y Gweinidog Awyr Robert Goodwill a Phrif Weithredwr Asiantaeth Gofod Prydain Dr David Parke.
Mae ymdrech Prydain i fod yn arwain hyn yn Ewrop wedi cymryd cam sylweddol ymlaen o ganlyniad i'r cyhoeddiad.
Roedd 'na adroddiadau y byddai'r maes awyr yn Llanbedr ar y rhestr.
Y saith lleoliad arfordirol arall yw Meysydd Awyr Campbeltown; Glasgow Prestwick a Stornorway yn Yr Alban, Maesydd Awyr y Llu Awyr yn Luchars a Lossiemouth, eto yn Yr Alban, Gwersyll Kinloss, Yr Alban a Maes Awyr Newquay yng Nghernyw.
Lleoliadau addas
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, fod 'y gofod' yn fusnes mawr i'r DU gan gyfrannu 拢11,3 biliwn i'r economi yn flynyddol ac mae 'na 35,000 yn gweithio yn y diwydiant.
"Mae felly yn bwysig ein bod yn paratoi ar gyfer y camau nesaf a sefydlu'r Hafan Ofod erbyn 2018. "
Yn 么l yr Adran Drafnidiaeth, yr hyn fyddai'n gwneud lleoliad addas yw ffactorau meteoroleg, amgylcheddol ac economaidd sy'n cynnwys:
路 llain lanio sydd eisoes yno neu y mae modd ei ymestyn i dros 3000m o hyd;
路 y gallu i gartrefu a gwahanu gofod awyr i reoli'r hedfan yn ddiogel;
路 pellter rhesymol o ardaloedd poblog er mwyn lleihau'r effaith ar y cyhoedd.
Ar 么l cyfnod ymgynghorol fe fydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu'r safleoedd fydd yn parhau ar y rhestr fer gan gynnwys casglu barn pobl leol ac unrhyw un sydd 芒 budd cyn parhau a'r cynllun.
Eisoes mae cynlluniau yn cael eu datblygu i ddefnyddio maes awyr Llanbedr fel canolfan ar gyfer awyrennau di-beilot milwrol a sifil.
Mae llain lanio Llanbedr yn 2,300 metr o hyd. Llywodraeth Cymru yw perchnogion y safle.
Croesawu'r cyhoeddiad
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, rhoddodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart groeso cynnes i'r newyddion, gan ddweud y byddai'n dod a llawer o fanteision i Gymru.
"Pe byddai Llanbedr yn cael ei ddewis, byddai cyfle yma i weddnewid pethau. Byddai'n rhoi hwb i economi rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru ac yn rhoi Cymru ar y map fel cyfrannydd pwysig i sector gofod byd eang y Deyrnas Unedig sy'n sector sy'n prysur dyfu.
"Mae gan Gymru gryfderau eisoes yn y Diwydiant Gofod a gallai'r Ganolfan Awyrennau helpu'r diwydiant hwn i sefydlu ei hunan ac i dyfu fel rhan o weledigaeth y DU ar ei gyfer."
Mae AC Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Dywedodd: "Mae Maes Awyr Llanbedr yn rhan hanfodol o ranbarth menter Eryri, ac mae'r safle mawr yma yn rhoi cyfle i greu cyfleuster o'r safon uchaf ar gyfer hedfan a sectorau ehangach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2014