91热爆

Protest yn erbyn awyrennau di-beilot Maes Awyr Llanbedr

  • Cyhoeddwyd
Protest

Mae aelodau Cymdeithas y Cymod wedi cynnal protest ym maes awyr Llanbedr ger Harlech yn erbyn y defnydd o awyrennau milwrol di-beilot yno.

Mae aelodau yn anhapus bod QinetiQ wedi arwyddo cytundeb i ddatblygu awyrennau milwrol di-beilot yn Llanbedr.

Mae'r cwmni sy'n gweithredu'r awyrennau ar y safle, QinetiQ, wedi dweud eu bod yn deall y pryderon, ond nad oes awyrennau di-beilot yn cael eu hedfan yno ar hyn o bryd.

'Adar Angau'

Mae Cymdeithas y Cymod yn fudiad sydd yn "ymgyrchu dros heddwch yn rhyngwladol ac yma yng Nghymru".

Dywedodd y gymdeithas mewn datganiad: "Torrodd aelodau o Gymdeithas y Cymod i mewn i Faes Awyr Llanbedr ger Harlech gan beintio'r geiriau 'Dim Adar Angau' ar y lanfa.

"Y mae hyn yn rhan o ymgyrch Cymdeithas y Cymod yn erbyn datblygu rhyfela robotig sydd yn creu cymaint o ddychryn a lladd ymhlith pobl gyffredin mewn gwledydd fel Pacistan ac Affganistan."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r protestwyr wedi paentio slogan mawr ar y llain lanio

Mewn datganiad, dywedodd QinetiQ eu bod yn derbyn ac yn deall pryderon am ddefnydd awyrennau di-beilot.

"Ar hyn o bryd does dim awyrennau di-beilot milwrol yn hedfan yn y maes awyr," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'r awdurdodau i sefydlu amgylchedd diogel er mwyn creu canolfan i ddefnyddio awyrennau di-beilot milwrol a sifil.

"Fel rhan o'r broses byddwn yn esbonio'r budd i'r ardal a bydd cyfle i'r cyhoedd roi eu barn mewn ymgynghoriad cyhoeddus."

Mae llain lanio Llanbedr yn 2,300 metr o hyd ac mae Llywodraeth Cymru, perchnogion y safle, yn gobeithio bydd y profion yno yn helpu economi'r ardal.