Annog Cyngor M么n i ddal at wneud Cymraeg yn iaith weinyddol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi annog Cyngor Ynys M么n i wrthwynebu ymdrech i atal cyflwyno'r Gymraeg fel unig iaith weinyddol yr awdurdod.
Bwriad y cyngor ydy ceisio gweithredu'n uniaith erbyn 2021.
Ond mae cynghorydd annibynnol wedi cyflwyno cynnig i atal hynny, gan ddweud bod dim "mandad" gan y cyngor heb refferendwm ar y pwnc.
Yn 么l Cymdeithas yr Iaith dylai cynghorwyr wneud "safiad dros y Gymraeg" a gwrthod y cynnig.
Dim 'mandad'
Ym mis Tachwedd, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor M么n bod symud tuag at weinyddu yn y Gymraeg yn "gam naturiol" i'r awdurdod.
Yn 么l Ieuan Williams, yr adran tai fydd yn symud i weithio yn Gymraeg gyntaf, gydag adrannau eraill i ddilyn.
Ychwanegodd y byddai'r awdurdod yn "gweithio'n raddol" tuag at "darged meddal" o weinyddiaeth Gymraeg cyflawn erbyn 2021.
Ond mae'r cynghorydd annibynnol Shaun Redmond wedi cyflwyno cynnig i'r cyngor i barhau 芒'r polisi presennol o weinyddiaeth ddwyieithog.
Mae'r cynghorydd dros Gaergybi yn cynnig cadw pethau fel y maen nhw "nes y bydd mandad a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm".
Mae'n honni y bydd "gwahaniaethu" a "baich ariannol" oherwydd y penderfyniad, ac mae'n galw ar y cyngor i "gyflogi'r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd" a "chyflogi pobl ifanc a thrigolion eraill ym M么n" waeth beth fo'u hiaith gyntaf.
Yn 么l Cymdeithas yr Iaith, mae cynnig Mr Redmond yn "ymdrech i danseilio camau bach y cyngor tuag at weithio drwy'r Gymraeg".
Gan ddweud bod agwedd y cynghorydd yn "adweithiol", galwodd Menna Machreth o'r mudiad ar gynghorwyr i "wrthwynebu'n gryf".
"Dylai'r cyngor fod yn symud yn syth at weinyddu drwy'r Gymraeg yn unig, wedi'r cwbl mae Gwynedd eisoes yn gwneud hyn," meddai.
"Dyna'r arfer gorau o ran polis茂au iaith, rhywbeth a fydd yn golygu bod y cyngor yn beiriant i greu siaradwyr Cymraeg hyderus."
Fe fydd y cynnig yn cael ei ystyried pan fydd Cyngor Ynys M么n yn cyfarfod ar 12 Rhagfyr.