Disgwyl i Blaid Cymru arwain Cyngor M么n
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd Plaid Cymru yn arwain Cyngor Ynys M么n, wedi i'r cyfnod o enwebu arweinydd i'r cyngor ddod i ben nos Iau.
Mae'n debyg mae'r unig enwebiad ar gyfer swydd arweinydd y cyngor oedd arweinydd gr诺p Plaid Cymru, Llinos Medi Huws, wedi i'r aelod Annibynnol, Ken Hughes dynnu ei enw'n 么l.
Ond mae rhai cynghorwyr Annibynnol wedi eu cyhuddo o "ddangos dirmyg at yr etholwyr" wedi iddyn nhw gefnogi gweinyddiaeth wedi ei harwain gan Blaid Cymru, yn hytrach na gan arweinydd Annibynnol.
Yn yr etholiadau lleol wythnos diwethaf fe gipiodd Plaid Cymru 14 sedd, cafodd cynghorwyr Annibynnol 13 sedd, Llafur dwy sedd a'r Democratiaid Rhyddfrydol un sedd.
Ond nawr mae rhai cynghorwyr Annibynnol, yn cynnwys cyn-arweinydd yr awdurdod, Ieuan Williams, wedi cytuno i gefnogi Plaid Cymru.
'Dirmyg'
Mae'r cynghorydd Annibynnol, Peter Rogers, wedi beirniadu eu penderfyniad, gan ddweud: "Mae hyn yn dangos dirmyg tuag at yr etholwyr. Os ydych chi wedi eich ethol fel cynghorydd Annibynnol, fe ddylie chi o leiaf wneud ymdrech yn y lle cyntaf i geisio ffurfio gweinyddiaeth Annibynnol."
Dywedodd y cynghorydd Llafur, John Arwel Roberts, ei fod wedi ei "siomi'n fawr" fod rhai cynghorwyr Annibynnol wedi dewis cefnogi Plaid Cymru.
"Dwi'n teimlo fel eu bod nhw'n gadael pobl M么n i lawr," meddai.
Dywedodd y cynghorydd Ken Hughes, oedd wedi tynnu ei enw'n 么l o'r ras i gael ei ddewis fel arweinydd, ei fod wedi ei siomi fod cynghorwyr Annibynnol heb aros gyda'i gilydd i ffurfio gweinyddiaeth i arwain y cyngor.
Bydd arweinydd newydd y cyngor yn cael ei ethol yn ffurfiol ar 23 Mai.