Dim achubiaeth i gartref gofal yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod y frwydr i atal cabinet Cyngor Ceredigion rhag cau cartref gofal preswyl yn Aberystwyth wedi cyrraedd pen y daith yn aflwyddiannus.
Gwrthododd aelodau o bwyllgor dylanwadol o'r cyngor gais gan rai cynghorwyr i geisio mynd 芒'r mater i'r cyngor llawn.
Mewn cyfarfod ar 7 Tachwedd fe wnaeth y cabinet benderfynu i gau Bodlondeb erbyn Mawrth 2018.
Penderfynodd aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach (o naw pleidlais i saith) wrthod cynnig fyddai'n golygu byddai'n rhaid i'r penderfyniad fynd o flaen y Cyngor Llawn.
Mae Undeb y GMB wedi gwrthwynebu'r bwriad i gau gan ddweud y byddai yn creu "bwlch mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn y canolbarth.
Bu hefyd gorymdaith drwy Aberystwyth yn gwrthwynebu'r bwriad i gau.
Nododd adroddiad gan swyddogion Cyngor Ceredigion fod y cartref wedi bod yn gwneud colledion o hyd at 拢400,000 y flwyddyn - mwy na 拢7,600 yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd16 Medi 2017
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017