91热爆

Cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol cartref gofal Bodlondeb

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 13 o gleientiaid yn cael gofal parhaol ym Modlondeb

Roedd tua 250 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth nos Lun i drafod dyfodol cartref sydd dan fygythiad o gau.

Mae Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar gau'r cartref gan ddweud ei fod yn gwneud colled o bron i 拢400,000 y flwyddyn a bod angen moderneiddio'r ffordd o ddarparu gofal.

Yn ol cefnogwyr y cartref, roedd dros 50 o bobl yn cael gofal yno pan oedd yn ei anterth.

Erbyn hyn mae Cyngor Ceredigion yn dweud mai dim ond 13 o gleientiaid sy'n cael gofal parhaol ym Modlondeb.

Ddwy flynedd yn ol fe geisiodd y Cyngor gael hyd i ddarparwr sector breifat i redeg y cartref a chynnig gofal dementia yno. Ond methiant oedd yr ymdrech. Felly nawr mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gau'r cartref ac mae cyfle i bobl wneud sylwadau hyd at 25 Medi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth dros 100 o bobl orymdeithio heibio'r cartref

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus fel rhan o'r ymgynghoriad yn neuadd Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau. Roedd y neuadd yn orlawn gydag oddeutu 250 o bobl yn bresennol, rhai ohonyn nhw'n perthyn i breswylwyr Bodlondeb.

Cyn y cyfarfod fe wnaeth dros 100 o bobl orymdeithio heibio'r cartref at yr ysgol yn cario baneri a placardiau yn galw ar y Cyngor i 'Achub Bodlondeb'.

Mae tad Sandra Oliver yn 87 oed ac wedi byw ym Modlondeb ers naw mlynedd. "Mae'n cael trafferth cerdded", meddai Sandra "ac mae'n gofidio beth sy'n mynd i ddigwydd iddo fe.

"Mae ganddyn nhw (Cyngor Ceredigion) y ddadl yma fod yr ystafelloedd yn rhy fach - ond mae hwnna'n fath o 'red herring' yn fy marn i. Pe bawn nhw'n llenwi'r lle wedyn fe fyddai'n gwneud arian", meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 250 o bobl yn y cyfarfod cyhoeddus Nos Lun

Yn 么l Cyngor Ceredigion byddai angen gwario dros 拢3m er mwyn ailddatblygu Bodlondeb yn llwyr, a hyd yn oed wedyn mae'r Cyngor yn dweud na fydd y cartref yn cyrraedd y safonau disgwyliedig o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol ar Gabinet Cyngor Ceredigion: "Mae pwysau ariannol ar bob Cyngor, ry'n ni wedi ailedrych ar ein strategaeth pobl hyyn ar 么l gweld toriadau pellach i'n cyllideb ac ar 么l deall bod disgwyliadau pobl yn hollol wahanol nawr i fel oedden nhw pan gafodd y cartrefi preswyl eu hadeiladu hanner canrif yn ol.

"Os ydyn ni moyn moderneiddio ein gwasanaethau fel mae'r ddeddf newydd yn gofyn iddyn nhw wneud mae'n rhaid i ni symud ein harian i roi'r hyn mae pobl yn gofyn am sef cael gofal gartref a gofal nos, rhywbeth dy'n ni ddim yn gwneud ar hyn o bryd."