91热爆

Holi Carwyn Jones eto am honiadau bwlio yn y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
carwyn jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd ganddo unrhyw beth i'w ychwanegu at ei ddatganiad ddydd Mawrth

Mae Carwyn Jones yn wynebu galwadau gan ACau y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i ateb cwestiynau yngl欧n ag a wnaeth e gamarwain y Cynulliad dros fwlio honedig o fewn ei lywodraeth.

Cafwyd geiriau croch yn y Senedd ddydd Mercher wedi i'r Prif Weinidog wrthod ag ymhelaethu ar beth a phryd yr oedd yn gwybod am yr honiadau.

Mae'r cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd arbennig Steve Jones wedi dweud fod awyrgylch "wenwynig" pan oedden nhw'n rhan o Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi "delio" ag unrhyw faterion ar y pryd, ond wnaeth e ddim mynd i fanylion pellach ddydd Mercher.

'Gwrthod ateb'

Ym mis Tachwedd 2014 gofynnwyd iddo a oedd unrhyw adroddiadau wedi bod o fwlio gan ymgynghorwyr dros y tair blynedd diwethaf.

Ar y pryd, dywedodd Mr Jones nad oedd unrhyw honiadau wedi eu gwneud.

Ond nawr mae'r gwrthbleidiau eisiau ymchwiliad i weld a oedd yr ateb hwnnw'n gamarweiniol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Andrew RT Davies gyhuddo'r Prif Weinidog o osgoi ateb y cwestiwn

Mae hynny oherwydd i'r Prif Weinidog ddweud ddydd Mawrth: "Fe ddeliwyd gydag unrhyw faterion ddaeth i fy sylw i ar y pryd."

Ddydd Mercher, gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies pryd ddaeth yr honiadau i'w sylw gyntaf, pwy wnaeth ymchwilio iddyn nhw a pha gamau gafodd eu cymryd wedyn.

Dywedodd Mr Jones: "Does gen i ddim byd i'w ychwanegu at yr atebion dwi eisoes wedi eu rhoi, ond rydw i wrth gwrs yn ailadrodd fy ngwahoddiad ddoe os oes unrhyw un eisiau camu 'mlaen gyda gwybodaeth bellach."

Yn ddiweddarach fe wnaeth Adam Price o Blaid Cymru ofyn i'r Prif Weinidog ddychwelyd i'r siambr ar 么l iddo "wrthod ymateb" y cwestiynau.

"Does gennym ni ddim eglurdeb o gwbl nawr yngl欧n ag a chafodd y Cynulliad ei gamarwain, sy'n fater difrifol iawn, iawn," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru y dylai Carwyn Jones orfod dychwelyd i'r Siambr i ateb y cwestiwn

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones nad ei lle hi oedd dyfarnu ar gynnwys ymatebion y Prif Weinidog.

Mae'r AC Llafur Jenny Rathbone hefyd wedi galw am eglurdeb yngl欧n 芒 faint o bobl oedd wedi codi pryderon am fwlio o fewn y llywodraeth.

Dywedodd Mr Jones mai "materion adnoddau dynol" oedden nhw a'u bod yn fater i'r ysgrifennydd parhaol, prif was sifil y llywodraeth, i'w hateb.

Gwadu honiadau

Mae'r llywodraeth - a rhai gweinidogion a chyn-weinidogion - wedi dweud nad ydyn nhw'n cydnabod honiadau o fwlio.

Fe ddaeth yr honiadau i'r amlwg yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant.

Fe wnaeth Leighton Andrews a Steve Jones honni fod Mr Sargeant yn un o'r rheiny oedd yn cael ei danseilio, a hynny gan ymgynghorwyr o fewn y llywodraeth.