Mark Drakeford yn cynnig 'cefnogaeth lawn' i Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn dweud bod gan y prif weinidog ei "gefnogaeth lawn" am y cyfnod mae'n "fodlon cario 'mlaen" wedi marwolaeth Carl Sargeant.
Dywedodd wrth raglen Good Evening Wales ar 91热爆 Radio Wales y byddai Carwyn Jones wedi gofyn i'w hun "dro ar 么l tro" os allai fod wedi gwneud pethau'n wahanol.
Ychwanegodd nad ydy'n "cydnabod" honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Bu farw Carl Sargeant ddyddiau wedi iddo golli ei swydd yn y llywodraeth yn dilyn honiadau o ymddygiad annerbyniol.
Mewn dyfarniad cychwynnol ddydd Llun, dywedodd crwner mai "crogi" fel "gweithred debygol o hunan niwed" oedd achos ei farwolaeth.
'Wythnos ryfeddol o galed'
Gan gyfeirio at y bwriad i gynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau ei farwolaeth, dywedodd Mr Drakeford bod angen "gadael i'r broses fynd rhagddi".
Ond dywedodd bod y prif weinidog wedi "wynebu wythnos ryfeddol o galed yn bersonol".
Ychwanegodd: "Dwi'n credu ei fod yn gwneud ei orau glas i ymateb yn onest i'r pryderon sy'n cael eu codi.
"Dydw i ddim yn credu bod codi cwestiynau am ei ddyfodol yn helpu o gwbl i ddatrys rhai o'r materion ry'n ni wedi'u trafod.
"Mae e wedi bod yn brif weinidog llwyddiannus iawn a tra'i fod e'n fodlon cario 'mlaen a dal y pwysau personol sylweddol iawn mae hyn yn ei roi arno, yna yn sicr fe fydd ganddo fy nghefnogaeth lawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017