Cyn-weinidog yn gwadu bod diwylliant bwlio yn y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydy o'n cydnabod bod diwylliant o fwlio o fewn y sefydliad.
Yn 么l y cyn-ymgynghorydd, Steve Jones, roedd awyrgylch "o ofn a chasineb" yno.
Ond dywedodd Jeff Cuthbert - gweinidog cymunedau rhwng 2013-14 - bod gweinidogion yn medru "ffraeo" ond nad oedd hynny "fyth yn troi'n bersonol".
Daw'r sylwadau wedi i Leighton Andrews - cyn-weinidog arall - honni bod yr awyrgylch yn "wenwynig" ar adegau.
Mae'r diwylliant rhwng aelodau Llywodraeth Cymru dan y chwyddwydr ers marwolaeth Carl Sargeant lai nag wythnos yn 么l.
'Gwenwyn pur'
Roedd Mr Jones yn ymgynghorydd i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, rhwng 2009 a 2014.
Dywedodd fod yr awyrgylch yn "wenwyn pur", gydag "uwch-gynghorwyr... yn chwarae gemau ac yn ceisio cael rheolaeth afresymol dros y Llywodraeth".
Mae'n honni fod Carl Sargeant yn un o'r rhai oedd yn cael ei dargedu.
Ond dywedodd Jeff Cuthbert nad ydy'r honiadau'n "adlewyrchiad teg" o'r sefyllfa.
"Yn ystod fy nghyfnod yn y llywodraeth, oedd yn cyd-fynd 芒'i gyfnod e fel ymgynghorydd arbennig, doeddwn i ddim yn destun unrhyw fath o fwlio nac aflonyddu a dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw un arall wnaeth diodde' hynny," meddai'r cyn-AC dros Gaerffili.
"Fel gweinidogion llywodraeth ry'n ni i gyd yn medru bod yn angerddol, ry'n ni gyd yn medru bod yn gadarn pan nad o'n ni'n teimlo fod ein bwriadau, ein polis茂au neu ein mentrau yn cael eu hystyried gyda'r difrifoldeb fuasai rhywun yn ei ddisgwyl gan eraill.
"Felly fe fyddan ni'n ffraeo o dro i dro ond mae disgwyl hynny ar lefel llywodraethol.
"Ond yn onest, doedd o fyth yn troi'n bersonol nac yn fygythiol mewn unrhyw ffordd... Dyna f'atgof i."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017