'Angen i Skates golli cyfrifoldeb dros drafnidiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae un o ACau Plaid Cymru wedi dweud y dylai Gweinidog yr Economi ac Isadeiledd, Ken Skates golli cyfrifoldeb dros y portffolio trafnidiaeth.
Dywedodd Adam Price fod y "llanast" o gwmpas cytundeb newydd gwasanaeth reilffordd Cymru, yn ogystal 芒 Chylchffordd Cymru, yn dangos nad oedd Mr Skates yn gallu ymdopi 芒'i "fr卯ff eang".
Ychwanegodd Mr Price fod angen creu swydd ysgrifennydd cabinet newydd ar gyfer trafnidiaeth.
Ond mae llefarydd ar ran y gweinidog wedi cyhuddo Plaid Cymru o chwarae "gemau gwleidyddol" gyda sefyllfa'r rheilffordd er mwyn eu "dibenion cul eu hunain".
'Methu ymdopi'
Mae ffrae wedi codi rhwng llywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan dros ddyfodol y rhwydwaith drenau yng Nghymru, gyda gweinidogion y DU yn bygwth oedi i'r broses geisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau.
Ym mis Mehefin fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd benderfynu peidio 芒 chynnig gwarant o 拢210m ar gyfer trac rasio arfaethedig yng Nglyn Ebwy, chwe blynedd wedi i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi gyntaf.
Dywedodd Mr Price, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi: "O Gylchffordd Cymru i beth sy'n edrych fel tro trwstan biliwn o bunnoedd wrth gaffael masnachfraint reilffordd nesaf Cymru, mae'n amlwg nad yw adran Ken Skates yn gallu ymdopi a'u br卯ff eang mwyach."
Ychwanegodd y dylai'r adran orfod hepgor eu cyfrifoldeb dros drafnidiaeth "er lles cyllid Cymru a'r gwasanaethau tr锚n mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd".
Does gan y prif weinidog, Carwyn Jones "ddim dewis", medd Mr Price, ond "creu ysgrifennydd trafnidiaeth newydd ar lefel cabinet er mwyn glanhau'r llanast y mae wedi'i greu".
Ond mae llefarydd ar ran Mr Skates wedi beirniadu ymateb Plaid Cymru i'r ffrae reilffyrdd.
"Mae'n siomedig fod Plaid Cymru'n hapus i ddefnyddio sefyllfa bwysig fel hon i chwarae gemau gwleidyddol a manteisio ar sefyllfa er mwyn eu dibenion cul eu hunain," meddai.
"Fe fyddwn ni'n canolbwyntio'n hymdrechion ar sefyll cornel Cymru a brwydro dros y buddsoddiad mae ein teithwyr yn ei haeddu."