91热爆

Gweinidogion llywodraeth yn gwrthdaro ar reilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Tren
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pedwar cwmni ar y rhestr fer i ddarparu gwasanaethau dros 15 mlynedd ac i redeg rhwydwaith metro de Cymru

Mae anghydfod yn dwyshau rhwng yr adrannau trafnidaeth yng Nghaerdydd a Llundain ynglyn 芒 dyfodol gwasanaethau tr锚n Cymru.

Awgrymodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth llywodraeth y DU, fod Llywodraeth Cymru mewn peryg o "dorri corneli" wrth wneud penderfyniadau ynglyn 芒 dyfodol gwasanaethau tren yng Nghymru.

Ond yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi camddehongli'r sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dewis y cwmni fydd yn darparu gwasanaethau ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau o 2018 ymlaen.

Ar hyn o bryd Trenau Arriva Cymru sydd yn gyfrifol am y gwasanaeth, ond bydd cytundeb newydd i redeg y trenau - sydd yn cynnwys rhai gwasanaethau yn Lloegr - yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Ond mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn San Steffan, Chris Grayling, wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru ofyn am ei gydsyniad ef yn gyntaf.

Hefyd mae Mr Grayling wedi gwrthod cais o Gymru am ragor o arian ar gyfer y broses.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd yr Ecomomi Ken Skates, mae Mr Grayling yn gwrthod cais Mr Skates am arian ychwanegol oherwydd yr oedi diweddar i'r broses.

"Camddehongli datganoli"

Yn 么l Mr Grayling, Llywodraeth Cymru oedd ar fai am yr oedi.

Roedd Trafnidiaeth Cymru, y corff sydd yn gyfrifol am weinyddu'r cytundeb newydd, yn bwriadu cyhoeddi dogfennau ar gyfer y cytundeb ar Awst 18fed.

Ond mae swyddogion Adran Drafnidiaeth y DU wedi dweud y dylid aros tan ddiwedd mis Medi.

Yn 么l Ken Skates fe allai'r oedi yma gostio 拢3.5m i Lywodraeth Cymru.

Mewn llythyr dywedodd Mr Grayling: "Gobeithio eich bod yn deall na allaf dorri corneli gyda'r broses ....byddai hynny yn risg sylweddol i Network Rail, y trethdalwyr ac yn fwyaf oll y teithwyr sydd yn cael eu gwasanaethu.."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi siomi gan y dadleuon yn y llythyr", ac fe gyhuddwyd Mr Grayling o fod yn "wallus" a'i fod wedi camddehongli sefyllfa gymhleth datganoli grymoedd.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd yr Adran Drafnidiaeth; "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r egwyddorion a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfrifoldebau dros y rheilffyrdd."