Gosod Cerrig yr Orsedd ar dd诺r yn Eisteddfod Caerdydd?
- Cyhoeddwyd
Fe allai Cerrig yr Orsedd fod yn arnofio ar y d诺r ym Mae Caerdydd pan fydd y brifwyl yn cael ei chynnal yn y brifddinas y flwyddyn nesaf.
Mae cadeirydd y pwyllgor gwaith, Ashok Ahir, wedi dweud wrth Newyddion 9 eu bod nhw yn edrych ar y costau o wneud hyn yn dilyn llwyddiant cae p锚l droed oedd yn arnofio yn y bae yn ystod ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin.
Y gost
Cafodd y cae ei ddefnyddio i gynnal gemau 5 bob ochr fel rhan o 诺yl oedd yn croesawu'r rownd derfynol i'r brifddinas.
Dywedodd: "Mae UEFA wedi defnyddio pontoons ar gyfer y g锚m 5 bob ochr mas ar y d诺r. Pam lai'r syniad o roi Gorsedd tu fas ar y d诺r?"
Mae'n dweud ei fod wedi trafod hyn gyda'r Orsedd ac nad oedd yna wrthwynebiad.
"O'n nhw ddim yn erbyn e ond wrth gwrs mae'n rhywbeth costus. Os ni yn gallu ffeindio rhywun i noddi Cylch yr Orsedd mas ar y d诺r, bydde hynna yn wych."
Bydd yr eisteddfod flwyddyn nesaf yn wahanol i'r rhai arferol am na fydd yna faes traddodiadol na thaliad a mynedfa i ddod i mewn.
Er hynny fe fydd yna faes carafannau a Maes B a bydd y cystadlu a'r pebyll wedi gwasgaru ar draws canol y brifddinas.
Tocynnau i'r pafiliwn?
Ond mae'n bosib y bydd tocynnau yn cael eu gwerthu ar gyfer y pafiliwn fydd yn digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae mwy o drafod i wneud ar y mater yma meddai Ashok Ahir.
"Ni dal angen gweithio mas yn bendant beth fydd y sefyllfa ar y diwrnodau mwyaf poblogaidd. Mae rhai pobl wedi gofyn os ydyn nhw yn gallu prynu tocynnau.
"Ni yn trafod yn fewnol ac yn trafod gyda swyddogion y 'steddfod os fyddwn ni efallai angen system ar gyfer rhai sesiynau poblogaidd iawn.
"Ond os mae rhywun arall eisiau mynd mewn ac mae 'na lefydd ar gael, wrth gwrs maen nhw yn gallu mynd mewn.
"Ond falle bod ni angen gweithio mas ar gyfer dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn bendant."
Gobaith arall y cadeirydd yw denu nawdd trwy'r noddwyr.
"Mae gennym ni targed falle bach yn fwy uchelgeisiol o ran noddwyr. Ni yn y brifddinas. Ni yn gwneud g诺yl hollol wahanol i 'steddfod sydd wedi cael ei gynnal yng Nghaerdydd o'r blaen.
Codi arian
"So falle byddwn ni yn gallu denu mwy o incwm gan noddwyr achos mae'n 诺yl am ddim...
"Mae gennym ni brif noddwyr sydd yn cefnogi'r 'steddfod blwyddyn ar 么l blwyddyn. Dw i eisiau gweld rhai newydd yn dod mewn yn bendant i gefnogi'r syniad o 诺yl am ddim."
Hyd yn hyn mae'r pwyllgor gwaith wedi codi 拢100,000 tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf.
Y targed ariannol yw 拢325,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2016