91Èȱ¬

Gŵyl Cynghrair y Pencampwyr yn agor yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair y PencampwyrFfynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dathliadau eu lansio ar gae pêl-droed newydd sy'n arnofio ar y dŵr yn y bae

Mae gŵyl yn dathlu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr wedi agor ym Mae Caerdydd ddydd Iau.

Bydd tîm Gareth Bale, Real Madrid yn chwarae yn erbyn Juventus yn Stadiwm Genedlaethol Cymru am 19:45 nos Sadwrn, ac mae disgwyl i 170,000 o ymwelwyr ddod i'r brifddinas.

Ers bore dydd Iau mae rhai ffyrdd wedi cau a mesurau diogelwch mewn grym cyn gêm y merched nos Iau.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor yr ŵyl ym Mae Caerdydd am 11:00 wedi i'r tlysau gyrraedd.

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru hwn fydd y "parti mwyaf fydd y brifddinas yn ei weld".

Y ddau dîm fydd yn chwarae yn rownd derfynol y merched yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau fydd Lyon a Paris Saint-Germain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Gareth Bale yn ennill Cynghrair y Pencampwyr am y drydedd gwaith nos Sadwrn?

Dywedodd Mr Jones y byddai "pobl wedi chwerthin 15 mlynedd yn ôl" pe bai rhywun wedi dweud y gallai Caerdydd a Chymru fod â'r gallu i gynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.

"Rwy'n edrych ymlaen at y pedwar diwrnod nesaf. Rydyn ni eisiau rhoi amser grêt i bobl," meddai.

Cyfaddefodd y byddai cau ffyrdd yn cael effaith ar drafnidiaeth, ond dywedodd mai diogelwch cefnogwyr yw'r mater pwysicaf.

'Cymru ar y map'

Roedd y tlysau yn cyrraedd trwy law un o arwyr pêl-droed Cymru, a chyn chwaraewr Juventus, Ian Rush.

Roedd yn cyrraedd ar gwch ac fe wnaeth Mr Jones ddod i'w gyfarfod wrth y cae pêl-droed newydd sy'n arnofio ar y dŵr yn y bae.

Ffynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ffeinal y merched rhwng Lyon a Paris Saint-Germain yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau

"Mae cael y ffeinal yma yng Nghaerdydd yn anhygoel," meddai Rush.

"Roedd Euro 2016 yn anhygoel, ond mae hyn yn ei gymryd i'r lefel nesaf. Pan fydd pawb yn mynd yn ôl ddydd Sul, bydd Cymru ar y map ar lefel byd eang."

Bydd nifer o ddigwyddiadau a chyngherddau am ddim yn cael eu cynnal i gydfynd â'r pêl-droed yn ystod y pedwar diwrnod.

Mae nifer o drefniadau diogelwch eisoes mewn grym, ac yn ystod y pedwar diwrnod bydd 6,500 o blismyn ar ddyletswydd gan gynnwys 500 o swyddogion arfog.

Ffynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tlysau yn cyrraedd trwy law un o arwyr pêl-droed Cymru, Ian Rush

Yn ogystal mae nifer o ffyrdd wedi'u cau ac byddant ynghau o ddydd Iau tan 22:00 nos Sul:

  • Bydd Rhodfa Lloyd George ar gau o Sgwâr Callaghan i Fae Caerdydd.

  • Bydd nifer o ffyrdd ar gau o gwmpas Canolfan y Mileniwm

  • Bydd rhan o Heol Ddwyreiniol Y Bontfaen ar gau rhwng Ffordd y Gadeirlan Isaf a Stryd Westgate tan 06:00 fore Llun.

Mae Network Rail yn cynghori teithwyr i adael digon o amser ar gyfer eu siwrne, ac i ddisgwyl ciwiau.

Mae cyngor i gyrraedd y ddinas erbyn 13:00 ddydd Sadwrn os yn mynd i gêm y dynion, ac i fod yn yr orsaf o leiaf 30 munud cyn i drenau adael gyda'r nos.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn y Bae am y pedwar diwrnod nesaf