Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cylchffordd Cymru: Dim 'torri corneli' meddai Ken Skates
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi dweud na fydd yn "torri corneli" wrth asesu cais am gefnogaeth ariannol i gynllun Cylchffordd Cymru.
Yn gynharach ddydd Mercher, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod unwaith eto'n oedi cyn penderfynu a fyddan nhw'n cefnogi'r cynllun.
Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo Mr Skates o ddal penderfyniad yn 么l tan ar 么l yr etholiad cyffredinol.
Ond mae'r llywodraeth yn dweud mai gwybodaeth "ddiffygiol" gafodd ei ddarparu gan y datblygwyr sector preifat sydd ar fai am yr oedi.
Mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd wedi gofyn i'r llywodraeth am warant o dros 拢200m, ffigwr sydd dros hanner cost y prosiect.
'Gobeithion ffals ac addewidion gwag'
Wrth siarad yn Siambr y Senedd ddydd Mercher, dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price fod pobl Blaenau Gwent wedi eu "harwain gan obeithion ffals ac addewidion gwag am chwe blynedd".
"Yr hyn rydych wedi ei wneud ydy cynnal archwiliad fforensig gyda'r bwriad penodol, mae'n ymddangos i mi, o ddarganfod unrhyw esgus o gwbl i gyfiawnhau dweud 'na'," meddai.
"Ac onid achos o oedi tan ar 么l 8 Mehefin ydy hyn, wedi i chi eisoes ohirio cyhoeddi'r penderfyniad tan ar 么l etholiadau lleol Mai?"
Ond dywedodd Mr Skates wrth Mr Price: "Mae fy niddordeb ym mhobl Glyn Ebwy. Mae'n ymddangos mai hunan ddiddordeb gwleidyddol yw eich un chi.
"Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng uchelgais a bod yn ddiofal. Wna' i ddim torri corneli ar y broses wirio."
Ychwanegodd ysgrifennydd yr economi ei fod yn dal wedi'i "gyffroi" gan y cynllun gwerth 拢425m.