'Diffygion' wrth gyllido Cylchffordd Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna 'ddiffygion sylweddol' yn y modd y cafodd 拢9.3m o arian trethdalwyr ei wario ar gynlluniau trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy, medd adroddiad swyddogol.
Daw adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wrth i Lywodraeth Cymru barhau i bwyso a mesur a ddylen nhw fod yn gyfrifol am warantu dros 拢200m o arian cyhoeddus fyddai ei angen ar gyfer y prosiect.
Yn 么l y Swyddfa Archwilio, roedd yna wallau yn y modd y ceisiodd Llywodraeth Cymru "reoli'r risgiau perthnasol i arian y trethdalwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi eu synnu a'u siomi gan yr addroddiad, gan na chafodd sylw ei roi "i nifer o bryderon allweddol ynghylch cynnwys a chasgliadau'r adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi."
Mae cyfarwyddwyr Cylchffordd Cymru yn dweud fod yr adroddiad yn dangos fod honiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus yn ddi-sail.
Torri rheolau?
Mae'r adroddiad wedi ysgogi galwadau gan rai am ymchwiliad i weld a dorrodd gweinidogion Bae Caerdydd reolau'r Undeb Ewropeaidd ar ddefnyddio arian cyhoeddus wrth gefnogi busnesau yn y sector preifat.
Dywed Cylchffordd Cymru fod yr adroddiad yn ei gwneud yn glir na chafodd rheolau eu torri.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn pwyso a mesur manylion y prosiect 拢425m yng Nglyn Ebwy cyn penderfynu a ddylid rhoi mwy o gefnogaeth i'r fenter.
Yn ogystal 芒'r gylchffordd rasio beiciau modur, mae'r cynllun nawr yn cynnwys llwybrau beiciau mynydd, parc BMX, safle sg茂o dan do a lle ar gyfer cyngherddau.
Dywed y cwmni y byddai'n creu 6,000 o swyddi ac yn denu 750,000 o ymwelwyr bod blwyddyn.
Hyd yn hyn, mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd (CDBC) wedi derbyn 拢9.3m o arian y trethdalwyr mewn benthyciadau a chymorthdaliadau.
Dywed adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fod gwallau yn y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru "arfarnu'r wybodaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniadau cyllido."
"Gan mwyaf, bu i Lywodraeth Cymru ddilyn gweithdrefnau sefydledig i gefnogi penderfyniadau gan Weinidogion, ond cafodd rhywfaint o'r wybodaeth allweddol ei hepgor o'r papurau a gyflwynwyd iddynt. "
Fe wnaeth bron i hanner yr arian fynd i naw cwmni neu unigolion oedd 芒 pherthynas agos 芒 chyfranddalwyr CDBC.
Yn 么l yr adroddiad, fe gafodd y taliadau s锚l bendith y llywodraeth "heb ddigon o dystiolaeth bod y gwasanaethau a ddarparwyd i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd yn rhoi gwerth am arian."
'Ddim gyson 芒 dibenion y cynllun grant'
Fe aeth bron i 拢1m i gwmni Aventa, cwmni oedd yn eiddo i brif weithredwr (CDBC), Michael Carrick.
Ond mae'r adroddiad yn dweud mai cwmni Aventa, ac nid arian cyhoeddus nac arian CDBC, oedd yn gyfrifol am wariant o 拢35,000 ar ardd Mr Carrick yn Sir Caergrawnt a 拢4,000 arall ar hybu digwyddiadau gwleidyddol.
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod grant o 拢2m a ddyfarnwyd i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd yn cynnwys 拢300,000 i gaffael y cwmni peirianneg beiciau modur, FTR Moto Ltd, ac "nad oedd hyn yn gyson 芒 dibenion y cynllun grant.
"Ni fu modd i Lywodraeth Cymru egluro mewn ffordd sy'n bodloni'r Archwilydd Cyffredinol pam y bu iddi ganiat谩u i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ddefnyddio grant datblygu eiddo i gaffael cwmni peirianneg beiciau modur yn Sir Buckingham.
"Cafodd yr arian a drosglwyddwyd i FTR ei ddileu'n ddiweddarach yng nghyfrifon Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ac yna, ym mis Hydref 2016, aeth FTR i ddwylo'r gweinyddwyr."
Fe ddechreuodd Swyddfa Archwilio Cymru ar ei gwaith ar 么l i AS Mynwy David Davies leisio pryderon, gan ofyn a oedd y cynllun Glyn Ebwy yn dal d诺r.
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi dweud y bydd e'n cynnal archwiliad manwl o'r cynlluniau cyn penderfynu a ddylid rhoi arian y trethdalwyr i warantu'r prosiect.
Dywed y datblygwyr y bydd 拢430m o'r arian angenrheidiol yn dod o'r sector preifat, ond maen nhw eisiau i'r trethdalwyr warantu tua 拢210m.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol fis nesa.
Mae gweinidogion Bae Caerdydd eisoes wedi gwrthod dau gais blaenorol gan y cwmni i warantu'r cynllun.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Gall defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi prosiectau seilwaith preifat yng Nghymru helpu i roi hwb i waith adfywio a datblygu economaidd.
"O wneud hyn, rhaid rheoli cyllid cyhoeddus mewn ffordd gadarn, gan arddel safonau priodol o ran craffu, gwyliadwriaeth a throsolwg.
"Yn achos Cylchffordd Cymru, mae'n anffodus ein bod wedi cael hyd i ddiffygion sylweddol, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o'r adroddiad, yn enwedig os bydd yn penderfynu darparu unrhyw gymorth pellach er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo."
Yn 么l Nick Ramsay, cadeirydd pwyllgor Cyllid Cyhoeddus y Cynulliad, yr adroddiad yw'r "esiampl ddiweddara' o'r modd gwael mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin ag arian cyhoeddus ar gyfer y sector preifat."
'Synnu a siomi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi synnu a'u siomi gyda phenderfyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru i gyhoeddi'r adroddiad yn y cyfnod cyn yr etholiadau.
"Rydym hefyd yn siomedig nad oes sylw wedi'i roi i nifer o bryderon allweddol ynghylch cynnwys a chasgliadau'r adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi.
"Mae gofyn i ni, fel Llywodraeth, ysgwyddo lefelau uwch o risg er mwyn cefnogi cwmn茂au a phrosiectau na'r hyn a fyddai'n dderbyniol i'r sector preifat. Mae Cylchffordd Cymru'n brosiect cymhleth, ond rydym yn fodlon ein bod wedi asesu'r risg ar sail y gwerth am arian i'r trethdalwr ac rydym hefyd wedi ceisio'r sicrwydd mwyaf posibl gan y datblygwr.
"Cafodd y cyllid ei ddyfarnu i Gylchffordd Cymru er mwyn helpu i ddatblygu'r achos busnes ar ei chyfer, er mwyn sicrhau caniat芒d cynllunio ar ei chyfer a hefyd er mwyn ceisio sicrhau cyllid preifat."
Dywedodd llefarydd ar ran Cylchffordd Cymru fod yr adroddiad yn dangos yn glir fod cynlluniau'r prosiect wedi cyd-fynd 芒'r rheolau a "bod enw da'r cyfarwyddwr wedi ei adfer yn sgil honiadau anghywir am y camddefnydd o arian cyhoeddus.
"Mae'r adroddiad yn dangos ein bod wedi gweithredu o fewn canllawiau masnachu confensiynol a'n bod wedi glynu yn ofalus a gweithredu ar gyngor ar wariant gafodd ei ddarparu gan swyddogion Llywodraeth Cymru," meddai'r llefarydd.