Cylchffordd Cymru: Dim penderfyniad cyn mis Mai
- Cyhoeddwyd
Ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud yngl欧n 芒 rhoi arian cyhoeddus i gynllun 拢425m, Cylchffordd Cymru nes ar 么l yr etholiadau lleol ym mis Mai.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates AC, nad yw'r cwmni sydd eisiau adeiladu'r trac rasio ger Glyn Ebwy wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru.
Roedd Mr Skates wedi dweud yn y gorffennol y byddai'n edrych ar y cynlluniau ariannol diweddaraf.
Mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd eisiau i arian cyhoeddus dalu am hanner cost y prosiect.
Gwybodaeth ar goll
Dywedodd Mr Skates wrth ACau ddydd Mercher nad oedd y datblygwyr wedi darparu'r gwaith papur oedd ei angen ar y llywodraeth nes diwedd yr wythnos ddiwethaf, ac nad oedd y wybodaeth yn llawn.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio adrodd yn 么l i'r cabinet erbyn canol mis Mai, ar 么l etholiadau'r cyngor ar 4 Mai.
Fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price AC, feirniadu Llywodraeth Cymru am eu methiant i gael pawb i'r un ystafell i egluro'r wybodaeth sydd ar goll.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas yn cynnal ymchwiliad i fwy na 拢9m y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i roi i'r cynllun.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi'r adroddiad fis nesaf.