Ymgynghoriad maes awyrennau gofod Llanbedr yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgynghoriad ar gynllun posib i ddatblygu maes awyr i awyrennau gofod yng Ngwynedd yn dod i ben ddydd Llun.
Mae maes awyr Llanbedr ger Harlech yn un o wyth safle y mae Llywodraeth San Steffan yn ystyried ar gyfer creu 'Porth Gofod'.
Mae arweinwyr busnes yn yr ardal yn dweud bod y cynllun yn cynnig llawer o swyddi newydd mewn ardal sydd wir eu hangen.
Ond mae 'na bryderon am effaith unrhyw gynllun posib ar amaethyddiaeth, twristiaeth a byd natur.
'Cyfle am swyddi'
Yn ol cadeirydd Parth Menter Eryri, John Idris Jones, mae'r cynllun yn gyfle gwych i greu swyddi.
"'Da ni yn y busnes o geisio denu buddsoddiad i mewn i Feirionnydd a trio sicrhau bod Meirionnydd yn cael y cyfle i gael swyddi gwerth uchel," meddai.
"Ac mae'r gofod yn rhoi cyfle i gael swyddi gwerth uchel i mewn i'r ardal."
Un arall sy'n cefnogi'r syniad yw Anwen Hughes, cynghorydd sir lleol.
Dywedodd: "Dwi o blaid y datblygiad gofod, y rheswm pennaf ydy i ddod a bywyd yn ol i bentre' Llanbedr ac i hybu'r economi leol - sydd ar hyn o bryd yn marw ar ei thraed."
Pryder amgylcheddol
Ond mae rhai yn poeni am effaith amgylcheddol unrhyw gynllun, ac yna effaith pellach ar dwristiaid sy'n dod i fwynhau'r awyr agored yn yr ardal.
"Mae'n bwysig iawn i gefnogi busnesau sydd yn gwneud y gorau o'r Parc," yn ol Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold.
"'Da ni ddim yn credu bod y spaceport yn mynd i helpu ni i gadw a gofalu am y pethau sy'n arbennig yma - y tirwedd arbennig, y bywyd gwyllt ac yn y blaen."
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, yn dweud bod y cynllun yn un pwysig iawn i Wynedd.
"Fel cyngor rydyn ni'n falch iawn bod Maes Awyr Llanbedr wedi ei dewis fel un o wyth lleoliad posib i'r Porth Gofod, ac rydyn ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gadarnhau ein bod ni yn gwbl gefnogol i'r datblygiad fel lleoliad Porth Gofod y DU."
Yn ol Llywodraeth San Steffan does dim sicrwydd pryd y bydd y safle yn cael ei ddewis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2014