91热爆

Mwy o gleifion canser yn goroesi

  • Cyhoeddwyd
Canser ysgyfaint
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er bod gwelliannau, mae鈥檙 cyfraddau goroesi ar gyfer canser sy鈥檔 gysylltiedig 芒 ysmysgu ymysg y gwaethaf yn Ewrop

Mae cyfradd y cleifion sy'n byw o leiaf blwyddyn ar 么l cael canser wedi cynyddu 14% yng Nghymru mewn degawd.

Dyna'r cynnydd mwyaf ym Mhrydain yn 么l , ond mae gwelliannau digon tebyg wedi bod yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae cynnydd hefyd yn y canran o ferched sydd wedi cael brechiad yn erbyn y firws all achosi canser y groth.

Yn ogystal mae 5% yn rhagor o gleifion erbyn hyn yn barod i gyfrannu at ymchwil meddygol.

Ond mae cwymp o 5% yng nghyfraddau sgrinio canser y coluddyn ac mae cyfran y cleifion sy'n goroesi ar 么l cael canser y croen nid yn unig yn waeth na'r cyfartaledd Ewropeaidd ond hefyd yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Prydain ac Iwerddon.

'Gwelliannau go iawn'

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi croesawu'r canfyddiadau.

Dywedodd: "Mae'r adroddiad yma yn dangos fod gwelliannau go iawn wedi digwydd o ran gofal canser yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae hyn yn deyrnged i bawb sy'n rhan o gynllunio a gweithredu gofal.

"Mae'r adroddiad yn dweud wrthon ni fod y gwelliant o ran goroesi canser wedi bod yn fwy o ran cyfradd na gweddill y DU, ac rydym wedi bod yn cyrraedd y targed 31 diwrnod yn gyson ers Gorffennaf 2013."

Er bod y targed hwnnw wedi bod yn cael ei gyrraedd, dyw targed 62 diwrnod y llywodraeth ar gyfer cleifion sydd 芒 chanser sydd yn cael ei ystyried i fod yn achos brys, heb gael ei gyrraedd ers Tachwedd 2008.

'Falch o weld pethau'n gwella'

Mae'r wrthblaid yn y Cynulliad wedi croesawu'r newyddion bod cyfradd uwch o bobl bellach yn goroesi'r salwch.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: "Mae unrhyw gynnydd yng nghyfradd goroesi canser yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr ac rydw i'n falch iawn o weld fod pethau'n gwella. Dyw cymunedau Cymreig yn haeddu dim llai.

"Mae hi nawr yn hanfodol fod Carwyn Jones a'r Blaid Lafur yn mynd i'r afael a diffygion o ran amseroedd aros canser a chael gwared ar y loteri cod post sy'n amgylchu cyffuriau canser.

"Byddai canlyniadau yng Nghymru hyd yn oed yn well pe bai pobl ddim yn cael ei gwrthod ar gyfer triniaethau canser, sydd ar gael yn aml mewn rhannau eraill o'r DU."

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 89% o gleifion canser yn credu bod y gofal maen nhw wedi ei dderbyn yn "dda iawn neu'n ardderchog".