91热爆

Profiadau cleifion canser yn 'dda iawn'

  • Cyhoeddwyd
ysbyty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysbytai Felindre a Llandochau yng Nghaerdydd yn ogystal ag Ysbyty Gwynedd ym Mangor oedd ar y brig

Mae profiad cleifion canser o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ardderchog, neu'n dda iawn - yn 么l naw ym mhob 10 a atebodd arolwg cenedlaethol.

Serch hynny, fe ddangosodd canlyniadau arolwg cynta' Cymru o brofiadau cleifion canser fod 'na amrywiaeth rhwng ysbytai a bod cleifion a mathau prin o ganser yn llai hapus 芒'u gofal.

Ysbytai Felindre a Llandochau yng Nghaerdydd yn ogystal ag Ysbyty Gwynedd ym Mangor oedd ar y brig o ran darparu profiad cadarnhaol i'r claf.

Roedd y sawl a atebodd yr arolwg yn llai cadarnhaol am ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe, ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Sgoriodd ysbyty Singleton yn sylweddol 卯s ar sawl un o gwestiynau'r arolwg o'i gymharu 芒'r cyfartaledd ar draws holl ysbytai Cymru. Methodd yr ysbyty a sgorio'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar yr un cwestiwn o gwbwl, gan berfformio'n sylweddol waeth na'r cyfartaledd ar 34 o'r 85 cwestiwn.

Roedd cleifion 芒 mathau prin o ganser, yn ogystal 芒 chanser y bledren a'r ysgyfaint, yn dueddol o fod yn llai cadarnhaol am eu profiad o'r gwasanaeth iechyd, o'i gymharu 芒 chleifion a mathau mwy arferol o ganser.

Cleifion canser y fron oedd fwya' bodlon 芒'u gofal.

'Rhaid i'r GIG wrando'

Cyhoeddwyd yr Arolwg Profiadau Cleifion Canser gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag elusen Gofal Canser Macmillan.

Fe'i atebwyd gan 7,352 o gleifion.

Dyma'r tro cynta' i arolwg o'r fath ddigwydd yng Nghymru, gyda'r bwriad o wella safonau gwasanaethau canser ar draws y wlad.

Fe ddiolchodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford i'r rheini oedd "wedi treulio amser yn llenwi'r holiadur ar adeg anodd yn eu bywydau".

"Mae'n galonogol gweld bod cymaint o gleifion yn cael profiad cadarnhaol. Mae angen nawr i'r GIG wrando a gweithredu ar yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud."

Fe ychwanegodd Susan Morris, rheolwr Gofal Canser Macmillan yng Nghymru:

"Mae'n ffantastig bod 89% o gleifion canser a lenwodd yr arolwg yn credu bod eu gofal yn ardderchog neu'n dda iawn".

"Mae'r arolwg hefyd yn dangos nifer o feysydd lle gallwn ni weld gwelliannau gan gynnwys amrywiaethau yn y ddarpariaeth rhwng byrddau iechyd a phrofiad cleifion 芒 gwahanol fathau o ganser.

"Mae'n glir hefyd o'r arolwg bod angen i gleifion dderbyn mwy o gefnogaeth ar 么l i'w triniaeth orffen - rhywbeth sy'n dod yn bwysicach wrth i fwy a mwy o bobl oroesi canser".