2013: Yr amgylchedd 'yn ganolog'
- Cyhoeddwyd
O drafferthion y tywydd i'r dadlau am ynni, roedd 2013 yn flwyddyn bwysig i'r amgylchedd.
Roedd hefyd yn flwyddyn pan gafodd corff newyddei sefydlu i oruchwylio'r amgylchedd yng Nghymru.
A daeth y flwyddyn i ben gyda gweinidog yn galw am uno dau gorff arall, sef undebau'r ffermwyr.
Gohebydd Amgylchedd 91热爆 Cymru, Iolo ap Dafydd, sy'n bwrw golwg ar flwyddyn gythryblus.
Ynni a'r amgylchedd, y tywydd a ffermio, toriadau a phenderfyniadau gwleidyddion. Dyna grynhoi cynhwysion pennaf rhai o straeon amgylcheddol Cymru eleni.
Un o eiriau mwyaf aml y 18 mis diwethaf oedd llifogydd.
Yn 么l yr Aelod Cynulliad yng Ngorllewin Clwyd Darren Millar, roedd angen rhoi mwy o flaenoriaeth i beryglon gorlifo a'r holl sgileffeithiau i gartrefi a busnesau.
"Rwy'n credu y dylai hyn fod y flaenoriaeth uchaf i Lywodraeth Cymru," meddai.
"Rhaid iddyn nhw sicrhau bod cartrefi a busnesau pobl yn cael eu gwarchod rhag llifogydd ac rwy'n credu bod rhaid iddyn nhw roi'r adnoddau er mwyn gwneud hynny'n iawn."
Gan fod Y Rhyl, Llanelwy a Rhuthun yn etholaeth Mr Millar, does fawr o syndod ei fod 芒 diddordeb. Dadl y llywodraeth ydy eu bod yn gwario 拢180 miliwn ar lifogydd cyn yr etholiad nesaf.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Hon fydd un o brif ddyletswyddau'r corff amgylchedd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn sicr. Cafodd ei sefydlu yn Ebrill.
Uno'r Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Cyngor Cefn Gwlad arweiniodd at greu un o'r cwangos mwyaf erioed yng Nghymru.
Lleihau mae'r gweithlu o dros 2,000 gan fod 123 wedi gwirfoddoli i adael am bensiwn cynnar .
Aelod Ceidwadol arall o'r Cynulliad, Antoinette Sandbach , fu'n beirniadu gwario 拢17 miliwn ym mlwyddyn gyntaf y corff newydd - er y nod ydy arbed 拢158 miliwn o fewn 10 mlynedd.
Cadwyd cynllun busnes CNC dan glo yn ofalus. Er gwaetha' cyfres o geisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ni ddaeth y ffigyrau na'r costau cyfredol i olau dydd hyd yn hyn.
Yn 么l Ms Sandbach: "Alla i ddim deall sut bod colli swyddi ond yn arbed 拢4.2 miliwn y flwyddyn. Fe hoffwn i weld o ble daw gweddill yr arbedion. Does bosib bod gwell defnydd ar gyfer 拢17 miliwn o arian cyhoeddus?"
Wrth ymateb i'w blwyddyn gyntaf mewn bodolaeth, dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Ein llwyddiant mwyaf eleni a'r sialens fwyaf oedd sefydlu corff amgylcheddol newydd i Gymru. Ein blaenoriaeth oedd i barhau 芒'n gwaith o amddiffyn pobl rhag llifogydd, sicrhau bod digon o goed ar gyfer y farchnad ag amddiffyn bywyd gwyllt."
'Torcalonnus'
Mae gwaith i'w wneud ar gadwraeth. Fis Mai cyhoeddwyd adroddiad Cyflwr Byd Natur gan 25 o fudiadau amgylcheddol.
Yn y fersiwn a gyhoeddwyd yng Nghymru, cyfeiriodd y gweinidog Alun Davies sydd 芒 chyfrifoldebau am yr amgylchedd ag amaethyddiaeth, ei fod yn adroddiad "torcalonnus".
Yn 么l un o awduron yr adroddiad, roedd angen gweithredu dros y degawd nesaf neu wynebu difodiant rhywogaethau yng nghefn gwlad.
"Mae Cymru wedi ei bendithio 芒 chyfoeth o fywyd gwyllt ond mae'n prinhau, mae'r pwysau arno'n cynyddu a nid yw ein hymateb yn ddigon uchelgeisiol," meddai Dr Trevor Dines.
Ffracio
Gwahanol ydy'r agweddau at chwilio am nwy anghonfensiynol drwy broses ffracio. Dyma ffynhonnell o ynni sy'n ennill cefnogaeth llywodraeth San Steffan, a chefnogaeth ofalus prif weinidog Cymru Carwyn Jones hefyd.
Does yr un cwmni yn ffracio'n fasnachol yng Nghymru eto, ond mae'r chwilio a cheisiadau cynllunio i dyllu 'mhellach gerbron sawl awdurdod lleol.
Mae'r datblygwyr angen arian. Llawer ohono gan fod ariannu un ebill i dyllu milltir dan ddaear am 6 wythnos, yn gallu costio cannoedd o filoedd o bunnau.
Cynhaliwyd protest a chyflwynwyd deiseb i'r Cynulliad yn gofyn am wahardd ffracio. Does dim arlliw o hynny eto, ac mae disgwyl y bydd cwmn茂au yn gallu prynu mwy o drwyddedau yn 2014. Yr abwyd ydy gall fod 50 triliwn troedfedd sgwar (trillion cubic feet?) o nwy anghonfensiynol yn ne Cymru yn unig - a'r defnydd blynyddol ym Mhrydain yn fras ydy hyd at 3.5 miliwn tcf.
Galw mae gwrth-ffracwyr ar inni ddefnyddio ynni adnewyddadwy.
Melinau gwynt
Ond mae gwrthwynebiad cryf yn erbyn melinau gwynt mewn rhannau o Ynys M么n, Powys, Pen Llyn, siroedd Penfro a Chaerfyrddin.
Mae ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i bum fferm wynt fawr yn y Canolbarth. Dechreuodd ym Mehefin, a does dim disgwyl y bydd yr Arolygydd Cynllunio yn darfod casglu tystiolaeth hyd ddiwedd Mai nesaf.
Bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth San Steffan - gan mai datblygiadau mwy na 50 megawat ydyn nhw - a'r Ysgrifennydd Ynni Ed Davey fydd 芒'r gair olaf.
Yn y cyfamser, mae gwaith cynllunio'r Grid Cenedlaethol i gario p诺er y tyrbinau gwynt o Gymru i Loegr. Ym mis Medi, wedi pwysau yn lleol, cytunwyd claddu wyth milltir o wifrau trydan dan ddyffryn Efyrnwy. Mi fydd ffermwyr godro gyda thir ar lawr y dyffryn yn cas谩u hynny.
Yn Rhagfyr cyhoeddwyd torri ar gymorthdaliadau cynhyrchu egni o'r gwynt a'r haul - er bydd mwy o grantiau gwyrdd ar gael i'r cwmn茂au sydd am adeiladu tyrbinau ar y m么r.
Niwclear
Yn Wylfa ac yn Hinckley yng Ngwlad yr Haf bydd mwy o hyder yn nyfodol atomfeydd niwclear newydd. Cytunodd cwmni EDF ar bris trydan a ddaw o'u hatomfa newydd gyda llywodraeth Prydain - ond mae'r fargen honno'n barod yn cael ei hasesu gan y Comisiwn Ewropeaidd oherwydd amheuaeth ei bod yn groes i reolau'r Undeb.
Er bod gwynt, glaw ac eira yn ei 么l y 'Dolig yma, dydi'r tywydd heb fod mor wael ag un y gwanwyn. Cyn y Pasg fis Mawrth collodd nifer o ffermwyr ddefaid mewn lluwchfeydd eira yn y gogledd a'r canolbarth.
Am wythnosau bu holi am gymorth gan y llywodraeth. Ymhen hir a hwyr daeth hanner miliwn o bunnau. Ond rhwng yr oedi, a thoriadau yn y polisi amaethyddol cyffredin (CAP) mae drwgdeimlad rhwng swyddogion yr undebau ac Alun Davies.
Yn y Ffair Aeaf, roedd gweiddi a rhegi rhwng swyddogion undeb yr FUW a Mr Davies. Aeth Emyr Jones y llywydd cyn belled 芒 dweud nad oedd y gweinidog yn cefnogi ffermwyr, fel mae gweinidogion amaeth eraill gorllewin Ewrop yn ei wneud yn eu gwledydd nhw.
Ymateb y gweinidog i hynny oedd ei fod yn gorfod edrych yn ehangach ar amaethyddiaeth tra bod Mr Jones ond yn gwasanaethu buddiannau aelodau'r FUW.
Undebau
Ar drothwy'r Nadolig fe gynddeiriogodd y gweinidog ffermwyr drwy symud bron 拢300 miliwn o daliadau uniongyrchol i gronfa datblygu wledig. Mewn cyfweliad radio 芒 Dei Tomos yn ystod yr un wythnos, dywedodd y dylai undebau NFU Cymru a'r FUW uno a'i gilydd.
" .... mae'n nonsens fod gyda ni ddau undeb yng Nghymru. Gwlad o 3m o bobl, llai na 100,000 yn gweithio yn y sector amaethyddol, mae ishe un undeb cryf fydd yn ymgyrchu ar gyfer y dyfodol ac yn gallu siarad yn gryf iawn dros amaethyddiaeth," meddai.
"... dwi'n cael dau gyfarfod am yr un peth gyda phobol wahanol ac mae angen i'r undebau feddwl o ddifri am sut y'n ni'n cynrychioli anghenion amaethyddiaeth ar gyfer y dyfodol."
Tra'n ymateb i benderfyniad Alun Davies i drosglwyddo 15% o gyllid Ewropeaidd oddi wrth ffermwyr, fe gyhoeddodd Ed Bailey, Llywydd NFU Cymru, lythyr yn dweud: "Mae'r gweinidog yn gofyn o hyd am drafodaeth gyda ffermwyr, ond mae amaethwyr yng Nghymru yn gofyn: 'Beth ydy pwrpas cael sgyrsiau, os nad oes neb am wrando?'"
Rhan o gefndir y chwerwder yma ydy ystadegau elusen Royal Agriculture Benevolent Institution (RABI).
Fe gafon nhw 拢150,000 o arian cyhoeddus i'w ddosbarthu ymysg teuluoedd sy'n ffermio, ond sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
Yn 么l y sefydliad, mae teirgwaith mwy o alwadau am gymorth yn 2013 na'r flwyddyn flaenorol.
Mae ffermydd llaeth mawr yn ehangu - a'r diweddaraf i fwrw ati ydy Fraser Jones ger y Trallwng wedi ymchwiliad cyhoeddus a'r gweinidog Carl Sargeant yn argymell caniat谩u ei gynlluniau am fferm odro 1,000 o wartheg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013