Digwyddiadau i nodi blwyddyn ers llifogydd yn Nyffryn Clwyd
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn i'r diwrnod ers i lifogydd mawr effeithio ar Ddyffryn Clwyd, mae digwyddiadau wedi eu cynnal yn Rhuthun ac yn Llanelwy.
Yn Llanelwy, bu gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan y ddinas am saith o'r gloch i gofio am y rhai gafodd eu heffeithio.
Cafwyd hyd i gorff Margaret Hughes, 91 oed, yn ei chartref yn y ddinas yn ystod y llifogydd. Clywodd cwest i'w marwolaeth ei bod hi wedi boddi. Yn ogystal, bu'n rhaid i gannoedd adael eu cartrefi wedi i'r Afon Elwy orlifo.
Roedd cynlluniau ar gyfer cynnau canhwyllau bychain a'u gosod yn yr afon, fore Mercher.
Am 6.15pm yn Rhuthun, bu trigolion Yst芒d Glasdir yn ymuno i ddangos eu hundod a'u cefnogaeth i'w gilydd. Roedd yr yst芒d yn newydd sbon pan darodd y llifogydd y llynedd, ac amryw yn y broses o symud yno am y tro cyntaf. Cafodd 122 o gartrefi eu heffeithio.
Yn hwyrach, roedd digwyddiad i 'oleuo'r yst芒d'. Fe fyddan nhw'n cynnau'r goleuadau yn yr holl gartrefi, flwyddyn union wedi i'r yst芒d fod heb b诺er.
Parhau i atgyweirio
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod nhw'n "parhau i ymdrechu i gefnogi'r sawl fu'n dioddef, yn atgyweirio'r difrod a gwella amddiffynfeydd llifogydd i bobl yn yr ardal.
"Ac er na fydd y rhai a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd byth yn anghofio'r gofid a'r aflonyddwch, yn bendant nid ydyn nhw'n angof".
Mae'r gwaith sydd eisoes ar droed yn cynnwys:
Cynllun llifogydd cymunedol ar Yst芒d Glasdir yn Rhuthun;
Rhaglen wyth mis o waredu coed, llwyni a malurion ar ran pedair milltir o Afon Elwy i gynyddu llif y d诺r pan fydd bygythiad o lifogydd;
Giatiau llifogydd unigol i 22 o gartrefi ym mhentref Llanfair Talhaearn.
Yn 么l adroddiad gan Gyngor Sir Ddinbych gyhoeddwyd ym mis Medi, mae angen gwario 拢250,000 ar amddiffyn Yst芒d Glasdir rhag llifogydd yn y dyfodol.
Sefydlwyd Gr诺p Partneriaeth Llifogydd Llanelwy ers y difrod y llynedd. Mae'r gr诺p yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, T芒n ac Achub Gogledd Cymru, cynghorwyr sir, cynghorwyr dinas, D诺r Cymru a chynrychiolwyr o'r gymuned.
Mae cadeirydd y gr诺p, John Roberts, maer Llanelwy, yn dweud bod y gr诺p "yn beirianwaith pwysig iawn, sy'n cysylltu'r gymuned gyda'r holl asiantaethau ac mae'n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn ac ar y gwaith y bwriedir ei wneud yn y tymor hirach".
Trwy'r Gr诺p Partneriaeth, gall trigolion gafodd eu heffeithio "gyflwyno'u profiadau ac amlygu unrhyw broblemau a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n eu hystyried wrth gynllunio mesurau amddiffyn llifogydd tymor hir a thymor byr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012