Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Targed triniaeth canser ddim yn cael ei gyrraedd
Mae ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi yn dangos bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi methu a chyrraedd ei tharged ar gyfer trin achosion brys o gleifion efo canser.
Roedd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi gaddo y byddai'r targed yn cael ei gyrraedd erbyn yr Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra ein bod yn optimistaidd fod pethau yn symud i'r cyfeiriad cywir, fe fydd y byrddau iechyd yn parhau i weithio tuag at sicrhau fod targedau yn cael eu cyrraedd yn y dyfodol ac i sicrhau fod y gwelliant yma yn cael ei gynnal."
92.4% o gleifion canser ddechreuodd eu triniaeth o fewn ychydig dros ddau fis yn 么l ffigyrau mis Hydref. Y targed gan y llywodraeth oedd 95%.
Ond mae'r ffigyrau yn dangos bod yna welliant wedi bod. 86.8% oedd y ffigwr ar gyfer y cyfnod yma ym mis Medi.
Mae'r chwe bwrdd iechyd hefyd wedi cyrraedd nod arall sef i drin 98% o gleifion oedd heb gael diagnosis yn syth ond a gafodd wybod bod ganddynt ganser wedyn o fewn 31 diwrnod.
'Addewid gwag'
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r llywodraeth gyda llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar yn dweud bod hwn yn 'addewid gwag' arall.
"Mis arall ac addewid arall yngl欧n 芒 GIG wedi ei dorri gan Lafur.
"Mae Carwyn Jones a Llafur Cymru wedi methu dwywaith i gyrraedd yr ymrwymiad wnaethon nhw addo yngl欧n 芒 thriniaeth ganser a hynny o fewn chwe mis i'w gilydd.
"Dydy hynny ddim yn dderbyniol ac mi ddylen ni gael ymddiheuriad ac esboniad llawn."
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi dweud bod y sefyllfa yn annerbyniol.
"Dyw y targed yma erioed wedi ei gyrraedd ers i Carwyn Jones ddod yn Brif Weinidog. Mae hynny yn warthus.
"Er bod y targed 62 diwrnod ddim wedi ei gyrraedd, mi ydw i yn croesawu'r ffaith fod yna rhywfaint o welliant wedi bod yn y ffigyrau. Mae staff GIG yn gweithio yn galed iawn i ddarparu gofal o ansawdd i gleifion a dw i'n gobeithio bydd y gwelliant yma yn parhau."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i gyrraedd y nod o ran targedau 31 diwrnod.
"Mae hwn yn rhywbeth mae pob bwrdd yng Nghymru wedi llwyddo i wneud ers Gorffennaf 2013.
"Ym mis Hydref fe welwyd y gwelliant mwyaf o ran nifer y cleifion canser oedd yn cael eu gweld o fewn y targed o 62 diwrnod, a hynny dros gyfnod o 18 mis.
"Fe wnaeth Bwrdd Iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro gyrraedd y targed 95%, tra bod Bwrdd Iechyd prifysgol Aneurin Bevan wedi cyrraedd y targed 95% am yr ail fis yn olynol.
"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio yn galed i gwrdd 芒'r targed, ac wedi cyrraedd 94%."