Canser: 'Targed o 10 diwrnod'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion wedi dweud y dylai cleifion canser weld arbenigwr yn gynt ac y dylai byrddau iechyd sicrhau hynny.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl bod claf yn gweld arbenigwr o fewn 10 diwrnod gwaith.
Felly bydd y driniaeth yn dechrau o fewn y cyfnod targed, 62 o ddiwrnodau.
95%
Ym mis Mai dywedodd 91热爆 Cymru nad oedd targedau amseroedd aros cleifion canser brys yn cael eu cyrraedd.
Targed Llywodraeth Cymru yw bod 95% o gleifion yn gweld arbenigwr o fewn 62 o ddiwrnod.
Y ganran ddiweddara' yw 84%.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod y targed o 10 diwrnod yn "garreg filltir dros dro".
"Mae'r mwyafrif helaeth o gleifion yn gweld arbenigwr o fewn 62 o ddiwrnodau.
"Ond mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi ei chael hi'n anodd gweld 95% ohonyn nhw o fewn y cyfnod targed.
"Os yw'r Gwasanaeth Iechyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymaint o gleifion yn gweld arbenigwr o fewn 10 diwrnod, bydd cyrraedd y targed yn haws."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2013
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2013